Arweinydd Byw’n Iach Ac Actif

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Arwain ar ddatblygu a chyflwyno ystod eang o gyfleoedd hygyrch o ansawdd uchel i fyfyrwyr, er mwyn annog gweithgarwch corfforol a hyrwyddo ymddygiadau ffordd o fyw iachach.

Llawn amser (37 awr yr wythnos) 40 wythnos y flwyddyn Parhaol 23,504 - 25,586 y flwyddyn Traws-gampws

Cyfrifoldebau Allweddol:



Bod yn gyfrifol am weithredu a rheoli rhaglenni GCS Active a LiveWell ledled y Coleg. Gweithio gyda chyfadrannau a gwasanaethau ar draws y campysau i ddarparu ymyriadau lles gweithgar targedig ac addas ar gyfer myfyrwyr. Cydlynu amserlen o sesiynau lles gweithgar i'w cyflwyno gan hyfforddwyr neu ddarparwyr perthnasol eraill ar draws cymuned gyfan y Coleg.

Amdanoch chi:



5 TGAU gradd A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth. Gradd berthnasol mewn Lles Gweithgar neu Chwaraeon/ABCh, neu brofiad perthnasol mewn sectorau cysylltiedig. Profiad o weithio ar brosiectau a digwyddiadau lles gweithgar. Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu tasgau'n effeithiol ac i gwrdd a therfynau amser. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol.

Buddion:



28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.



Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 26,476 - 28,822 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD4270690
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned