Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Gr?p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno an tim. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Bydd deilydd y swydd yn uchafu incwm rhent a thal gwasanaeth Gr?p Cynefin gan weithredu fel y prif gyswllt ir Gymdeithas ar gyfer tenantiaid (darpar, cyfredol a chyn) ar gyfer materion rhent a thal gwasanaeth. Disgwylir i chi weithion effeithiol fel rhan or tim tai er mwyn darparu gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol ac effeithlon i denantiaid a chleientiaid eraill, yn unol a pholisiau, gweithdrefnau a safonau Gofal Cwsmer y Gymdeithas a datblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid.
Rydym yn chwilio am rywun sydd ar un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Rhiannon Dafydd, Rheolwr Tai, ar 0300 111 2122.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.