Arweinydd Marchnata Digidol / Digital Marketing Lead

Cardiff, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Pam ymuno a S4C?



Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Marchnata Digidol i arwain ar weledigaeth ddigidol i'w hymdrechion hyrwyddo. Mae hon yn rol newydd gyffrous sy'n gofyn am ddealltwriaeth ddofn ac angerdd am y cyfleoedd mai llwyfannau digidol yn eu cynnig i ymgyrchoedd marchnata, brand ac ymgysylltu.

Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egniol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno a'n tim wrth arwain a gweithredu strategaeth hyrwyddo ddigidol i helpu tyfu cynulleidfaoedd a chodi proffil S4C a'i chynnwys ar amrywiaeth o blatfformau. Wrth weithio'n ehangach ar draws y timoedd marchnata, brand a chreadigol bydd y rol yn gyfrifol am arloesedd digidol yn y maes. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac yn frwdfrydig i greu s?n a denu cynulleidfaoedd newydd i holl blatfformau'r sianel.

Trosolwg y Swydd



Bydd yr Arweinydd yn cefnogi'r Pennaeth Marchnata, gan ddirprwyo yn ol yr angen, tra'n arwain tim o swyddogion marchnata profiadol o ddydd i ddydd. Byddwch yn gyfrifol am weithredu'r strategaeth hyrwyddo ar gyfer sianeli cyfryngau taledig ac organig ac yn creu strategaethau cyfryngau taledig a yrrir gan ddata gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau allanol S4C i wneud y gorau o'r gyllideb a chyrraedd cynulleidfaoedd mor eang a phosib. Gan weithio'n agos gyda thimau Digidol, Cyfathrebu, Brand a Chreadigol S4C bydd disgwyl i'r Arweinydd helpu sicrhau ymgyrchoedd unedig a llwyddiannus, gan fesur perfformiad ar draws amrywiol sianeli cyfryngau taledig.

Ynghyd a'r Pennaeth Marchnata, byddwch yn gyfrifol am osod cyfeiriad clir i'r gwaith hyrwyddo er mwyn ymateb i'r heriau digidol sy'n wynebu'r sector ddarlledu. Bydd disgwyl i'r Arweinydd seilio unrhyw strategaethau hyrwyddo a thactegau cynulleidfaoedd aml-lwyfan ar fewnwelediadau dwfn a dealltwriaeth o'r amgylchedd i newid canfyddiadau cynulleidfaoedd, gan gydweithio gyda'r Tim Ymchwil i sicrhau hyn.

Bydd gennych sgiliau marchnata, brand a digidol cryf gyda'r profiad a'r gallu i osod amcanion, gyrru canlyniadau a rhoi strategaeth ar waith. Yn ddadansoddol, yn strategol, ac yn fedrus iawn o ran sut i roi mewnwelediadau ar waith, byddwch yn gweithredu gydag angerdd a dealltwriaeth o arloesedd cyfryngau a digidol. Byddwch yn rheolwr profiadol gyda chefndir cryf o gyfathrebu a marchnata gyda'r gallu i ddatblygu cynlluniau integredig sy'n cynyddu ymgysylltiad.

Mae'r rol hon yn eistedd o fewn yr Adran Marchnata, Cyfathrebu ac Ymchwil ond yn allweddol i'r cydweithio agos gyda'r Tim Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol ar ymgyrchoedd integredig.

Manylion eraill



Lleoliad:

Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog:

49,000-55,000 y flwyddyn

Cytundeb:

Parhaol

Oriau gwaith:

35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:

6 mis

Gwyliau:

Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:

Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno a Chynllun Pensiwn Personol Gr?p yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Gr?p, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio:

Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig

Ceisiadau



Dylid anfon ceisiadau erbyn

12.00 ar ddydd Iau 29 Mai 2025

trwy lenwi'r ffurflen gais yma.

Dyddiad Cyfweliadau: 10 Mehefin 2025



Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Why join S4C?



S4C is looking for a Digital Marketing Lead to lead on the digital vision for its promotional efforts. This is an exciting new role that requires a deep understanding and passion for the opportunities that digital platforms offer to marketing, brand and engagement campaigns.

At S4C, we are passionate about creating a positive, active and inclusive work environment that reflects our core values:

Be Your Best, Proud of S4C, Celebrate Everyone, Go For It.

This is an exciting time to join our team in leading and implementing a digital promotion strategy to help increase audiences and raise the profile of S4C and its content across a range of platforms. Working more broadly across the marketing, brand and creative teams the role will be responsible for digital innovation in the field. We are looking for an individual who is passionate about S4C's content and enthusiastic about creating a buzz and attracting new audiences to all of the channel's platforms.

Job Overview



The Lead will support the Head of Marketing, deputising as required, whilst leading a team of experienced marketing officers on a day-to-day basis. You will be responsible for implementing the promotional strategy for paid and organic media channels and creating data-driven paid media strategies, working alongside S4C's external agencies to optimise the budget and reach as wide an audience as possible. Working closely with S4C's Digital, Communications, Brand and Creative teams, the Lead will be expected to help ensure unified and successful campaigns, measuring performance across various paid media channels.

Together with the Head of Marketing, you will be responsible for setting a clear direction for promotional work in order to respond to the digital challenges facing the broadcasting sector. The Lead will be expected to base any promotional strategies and multi-platform audience tactics on deep insights and an understanding of the environment to change audience perceptions, collaborating with the Research Team to ensure this.

You will have strong marketing, brand and digital skills with the experience and ability to set objectives, drive results and implementing strategies. You will be analytic, strategic, and highly skilled in implementing insights, and you will act with passion and an understanding of media and digital innovation. You will be an experienced manager with a strong communications and marketing background with the ability to develop integrated plans that increase engagement.

This role lies within the Marketing, Communications and Research Department but is critical in terms of the close collaboration on integrated campaigns with the Digital and Social Media Team.

Further Details



Location:

Carmarthen / Cardiff / Caernarfon (minimum of 2 days in the office)

Salary:

49,000-55,000 per annum

Contract:

Permanent

Probation Period:

6 months

Working Hours:

35.75 hours per week. Due to the nature of the position, flexibility is expected, including working outside office hours, some weekends and bank holidays.

Holidays:

In addition to the statutory bank holidays, you will be entitled to 26 days of paid holiday per year. (Please note that the annual leave will be pro rata if working part time).

Pension:

Paid staff are entitled to join a Group Personal Pension Scheme subject to the terms of any existing scheme which is amended from time to time. If you are a member of the Group Personal Pension Scheme, S4C will contribute 10% of your basic salary to the Scheme. You will be expected to contribute 5%.

Applications



Applications should be sent by

12.00 on Thursday 29 May 2025

by completing this application form.

Interview Date: 10 June 2025



CV's will not be accepted.

Applications may be submitted in Welsh. An application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

Job Type: Full-time

Pay: 49,000.00-55,000.00 per year

Schedule:

Monday to Friday
Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF10 1FS

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3102370
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Contract
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Cardiff, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned