Arweinydd Ymarfer

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i ymarferwyr gwaith cymdeithasol o fewn eu gr?p.



Hyrwyddo'r rhaglen perfformiad proffesiynol trwy weithio gydag aelodau o'r gr?p ymarfer i wella ansawdd a pherfformiad mewn meysydd allweddol.



Mentora a datblygu ymarfer proffesiynol o fewn eu grwpiau ac o fewn y gwasanaeth yn gyffredinol drwy gydweithio gydag Arweinwyr Ymarfer eraill a staff perthnasol eraill.



Bydd deilydd y swydd yn gwneud rhywfaint o waith uniongyrchol gyda theuluoedd ac yn goruchwylio gwaith aelodau eraill y Gr?p Ymarfer, gan ddarparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.



Bydd gan ddeilydd y swydd rywfaint o annibyniaeth ac atebolrwydd proffesiynol. Bydd disgwyl i ddeilydd y

swydd fod yn wybodus am ymarfer effeithiol, a sicrhau bod gwell gwybodaeth a sgiliau, ynghyd ag ymarfer rhagorol, yn gwreiddio o fewn eu Gr?p Ymarfer.



Cynorthwyo a chefnogi'r Gwasanaeth i arwain gr?p bach o weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr eraill a datblygu a chynnal adnoddau dynol tra'n cynnal ysbryd y staff, hyblygrwydd ac ansawdd y gwasanaethau.



Cyfrannu at ddatblygu a gwella'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan gydweithio a Rheolwyr Gwasanaeth ac Arweinwyr Ymarfer o fewn y gwasanaeth er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd sy'n diogelu ac yn gwella cyfleoedd bywyd i blant.



Gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc, gan gydweithio ag asiantaethau allweddol eraill, gan gynnwys sefydliadau statudol a gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.



Cynorthwyo a chefnogi'r Gwasanaeth i gwrdd a gofynion polisiau a gweithdrefnau'r gwasanaethau gan gynnwys cydymffurfio a rheoliadau ariannol.

Mwy o wybodaeth



Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.



Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.



Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

LLyr ap Rhisiart


Rhif ffon:

07920700292


Cyfeiriad e-bost:

llyraprhisiart@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100445

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3482742
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned