Asesydd/cynghorydd: Electrodrydanol

Neath, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Mae cyfle cyffrous i ymuno a'n hadran Pathways wedi codi lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg.. Gall y rol hon hefyd roi profiad gwerth chweil i chi os ydych chi am ddilyn gyrfa mewn addysgu yn ddiweddarach.

Cyflog:

Graddfa 6, Pwyntiau 29-31 34,221 - 35,952 y flwyddyn.

Contract:

Amser llawn, parhaol.


Grwp Colegau NPTC (wedi'i leoli i ddechrau yng Ngholeg Castell-nedd i ddarparu cymorth hefyd yng Ngholeg Afan).

Ynglyn a chi:

Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn disgyblaeth Trydanol Dechnegol (NVQ neu gyfatebol), a phrofiad perthnasol o'r diwydiant ynghyd a chymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr Ddyfarniadau Asesydd, fodd bynnag darparir hyfforddiant.

Ynglyn a ni:

Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru

.



Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal a chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy'n cynyddu bob blwyddyn yn unol a chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros 20 i'ch pensiwn, am bob 100 rydych chi'n ei ennill.


Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth, a gan ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 38 diwrnod o wyliau blynyddol fel Asesydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!


Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal a darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.


Mae maes parcio am ddim ym mhob un o'n prif golegau yn ogystal a lle i storio beiciau, ac os ydych wedi'ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.


Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.


Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.


Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3367848
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Neath, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned