Os ydych yn hoffi siarad gyda phobl, dyma'r swydd yn bendant i chi. Rydym yn deall nad yw ymgysylltu gyda chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae'n swnio ac y bydd hyn yn datblygu weithiau gyda phrofiad. Fe fyddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn Athro Nofio llwyddiannus ond rydym hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gefndiroedd cyflogaeth cymysg yn gallu cynnig buddion ehangach i'n tim, gyda rhai ohonynt a allai fod yn eu swydd gyntaf erioed ac angen mwy o gefnogaeth oddi wrth eu rheolwr a chydweithwyr.
O fewn rol Athrawes Nofio Cynorthwyol, fe fyddwch yn cyflwyno gwersi nofio i gwsmeriaid o bob oedran a gallu gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni eu nodau.
Os ydych eisiau gwneud cynnydd pellach, fe fyddwn yn eich cefnogi trwy'r hyfforddiant ychwanegol hwn. Fe fydd gwneud hyn yn ffurfiol ac ar y swydd yn allweddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb eisiau 'symud i fyny'r ysgol' ac mae hynny'n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eich bod yn hapus yn eich gwaith.
Yn Freedom Leisure, rydym yn croesawu ein cymuned leol amrywiol i'n canolfannau pob dydd ac rydym eisiau adlewyrchu'r un gymysgedd amlddiwylliannol o fewn ein busnes yn ogystal. Rydym hefyd yn ymdrechu i greu gweithle cynhwysol ac amrywiol lle y gall pobl fod eu hunain, cael yr un cyfleoedd a ffynnu gyda'i gilydd. Oherwydd yn Freedom Leisure, Rydych Chi'n Cyfrif!
Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo wedi'u gwerthfawrogi, beth bynnag fo eu hoedran, hil, rhyw, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw bod yn gyflogwr o ddewis o fewn ein diwydiant ac rydym yn ymdrechu am hyn bob diwrnod.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.