Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy'n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ol yr amgylchiadau ac yn unol a pholisiau'r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Yn ychwanegol at swydd ddisgrifiad athro/awes ddosbarth bydd disgwyl bod 'Athrawon Arweiniol Adrannau' yn cyflawni'r dyletswyddau canlynol;
(1) Cyfrifoldeb pennaf am sicrhau'r safonau dysgu ac addysgu uchaf posibl ym mhob adran, yn unol a gweledigaeth y Corff Llywodraethol.
(2) Cynnal a cefnogi athrawon yr adran.
(3) Cam ar drefn gwyno ysgol gyfan, os nad yw athro/awes yn medru bodloni neu gynnig datrysiad.
(4) Fel 'Arweinwyr Canol', cefnogi'r Uwch Dim Rheoli yn eu gwaith dydd i ddydd.
(5) Fel aelod o'r 'Tim Rheoli', cyfranogi'n sylweddol tuag at gyfeiriad strategol yr ysgol.
(6) Gweithredu fel athrawon dosbarth effeithiol
(7) Arwain y cydweithio a gyrru datblygiadau fel aelod o'r 'Tim Cydlynu Pwnc/Maes' pan ystyrir hynny angenrheidiol.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Graddfa: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD2c (3,451 y flwyddyn)
Oriau: Llawn Amser
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Owain Lemin Roberts
Rhif ff
o
n: 01407 883150
Cyfeiriad e-bost:
6603036_pennaeth.cybi@Hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i:
Mr Owain Lemin Roberts, Pennaeth, Ysgol Cybi, Ffordd Garreglwyd, Caergybi, Ynys Mon, LL65 1NP
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Mercher, 04 Mehefin 2025
Job Reference: SCH00123
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.