Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy'n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ol yr amgylchiadau ac yn unol a pholisiau'r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Sgiliau a/neu gymwysterau angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r swydd:
Profiad helaeth o weithio yng nghyfnod allweddol 2 (blynyddoedd 5 a 6 yn fwy delfrydol ond ystyrir ceisiadau a phrofiad blynyddoedd 3 a 4 yn ogystal)
Profiad o arwain grwpiau staff a/neu adran
Profiad o gynllunio ac arwain blaenoriaethau ysgol
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dim ehangach
Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
Sgiliau a/neu gymwysterau dymunol ar gyfer cyflawni'r swydd:
Gwybodaeth o systemau a threfniadau ADY diweddar
Gwybodaeth o, ac yn arddel, ystod o strategaethau dysgu amrywiol
Sylwadau pellach yngl?n a thelerau'r swydd:
Disgwylir i'r ymgeisydd weithio fel rhan o dim blynyddoedd 5 a 6 i gyd-gynllunio themau a gweithgareddau amrywiol i'r disgyblion.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Rhys Roberts
Rhif ff
o
n: 01248 722 558
Cyfeiriad e-bost:
6602226_pennaeth.cornhir@Hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Corn Hir, Llangefni, Ynys Mon, LL77 7JB
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Llun, 06 Hydref 2025
Job Reference: SCH00186
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.