Cogydd (gorseinon)

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Cynorthwyo gyda phob agwedd ar baratoi bwyd, coginio a gweini prydau, a darparu gwasanaeth ar gampysau eraill y Coleg fel bo angen.

Llawn amser (37 awr yr wythnos) 52 wythnos y flwyddyn Parhaol 25,458.00 - 27,713.00 y flwyddyn Campws Gorseinon, Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol:



Cynorthwyo'r Cogydd gyda chynhyrchu bwyd o ddydd i ddydd yn unol a gofynion y fwydlen ddyddiol, canllawiau maethol ac alergeddau, gan ddilyn rheoliadau hylendid bwyd a sicrhau safonau cyflwyno uchel. Coginio a gweini brecwast. Cynorthwyo gyda threfnu a gosod cownter gweini a'r gwasanaeth bwyd, gan ddilyn canllawiau rheoli dognau. Cynorthwyo gyda glanhau'r gegin a'r ardaloedd cysylltiedig.

Amdanoch chi:



NVQ Lefel 2 o leiaf Profiad o'r diwydiant bwyd, naill ai wrth goginio ar gyfer niferoedd llai neu gynorthwyo mewn allfa fwy Gonest a dibynadwy Safonau rhagorol o ran hylendid bwyd

Buddion:



28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.


Ymholiadau anffurfiol: HR@gcs.ac.uk


Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg a'r angen i ehangu ein gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd penodiad yn amodol ar wiriad DBS estynedig a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg Cymru.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3348396
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned