Commercial Manager | Rheolwr Masnachol

Ynysybwl, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Please note: this is a 12 month fixed-term contract opportunity



Equal Opportunities



At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone's different and has their own perspective so we're building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we're determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We're creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.

Who we are



At Transport for Wales, we're on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that's rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we're all facing.

We're an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we've made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.

Role responsibilities



To support the Operational Planning project team in the successful delivery of key projects. Ensuring that projects are delivered in line with agreed timeline, budgets and governance processes. Whilst also providing commercial expertise.

Responsibilities will include but not be limited to:



Providing expert commercial support to the project team supporting them to deliver projects in line with expectations.
Lead the design and implementation of the Procurement and Commercial strategy to include the procurement of a long-term commercial model to support ongoing contract management. Developing mechanisms and contracts in line with TFW procurement requirements and suitable to the specific projects needs.
Represent TFW in commercial negotiations with third party suppliers.
Undertaking contract management and monitoring activities with third party suppliers.
Drafting and negotiation of contracts with third party suppliers (in conjunction with other TFW relevant parties inc Legal and Procurement). Ensuring that these contracts meet the needs to TFW, aligning with our core values and deliver value for money.
Developing procurement frameworks. Working with relevant internal teams to develop bespoke procurement frameworks which can be used by TFW to utilise the service of third-party suppliers.
Lead the design and the implementation undertaking of the market engagement strategy and activities. Engaging suppliers in the relevant fields gaining a thorough understanding of the market and developing relationships which can develop and be mutually beneficial to the supplier and TFW.
Closely monitor and manage supplier performance. Being a champion for operational excellence and positive customer experience. Ensuring suppliers adherence to contractual SLAs and working collaboratively to ensure these are met or exceeded.

Who we're looking for



Experience working in a commercial/relationship management role. Specialist knowledge and experience working in public sector procurement and / or regulated procurement environment, including knowledge of procurement contract law in relation to the Procurement Act. Knowledge and experience in contract management with the ability to identify opportunities and risks. Experience of the rail and / or transport sector. Demonstratable experience working with and influencing external stakeholders. Ability to build and maintain strong interpersonal relationships.
Proven track record of successful delivery of projects.

Welsh Language Skills



The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.

Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.

Next steps



Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached for further details.

TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.

This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.

Sylwch: contract cyfnod penodol am 12 mis yw hwn



Cyfle Cyfartal



Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae'n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni'n creu tim amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni'n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

Pwy ydyn ni



Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a'i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny'n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli'r wlad i newid y ffordd y mae'n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio'n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu.

Rydyn ni'n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy'n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i'n galluogi i wireddu'r addewidion rydyn ni wedi'u gwneud i bobl Cymru, sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy'n diwallu eu hanghenion.

Cyfrifoldebau'r swydd



Cefnogi tim y prosiect Cynllunio Gweithredol i gyflawni prosiectau allweddol yn llwyddiannus. Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol a'r amserlen, y cyllidebau a'r prosesau llywodraethu y cytunwyd arnynt - gan ddarparu arbenigedd masnachol ar yr un pryd.

Bydd cyfrifoldebau'r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:



Darparu cymorth masnachol arbenigol i dim y prosiect gan eu cefnogi i gyflawni prosiectau yn unol a'r disgwyliadau. Arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu'r strategaeth Fasnachol a Chaffael, gan gynnwys caffael model masnachol hirdymor i gefnogi'r gwaith parhaus o reoli contractau. Datblygu mecanweithiau a chontractau sy'n addas i anghenion penodol y prosiect, yn unol a gofynion caffael TrC. Cynrychioli TrC mewn trafodaethau masnachol gyda chyflenwyr trydydd parti. Ymgymryd a gweithgareddau monitro a rheoli contractau gyda chyflenwyr trydydd parti. Drafftio a negodi contractau gyda chyflenwyr trydydd parti (ar y cyd a phartion perthnasol eraill TrC, gan gynnwys y tim Cyfreithiol a Chaffael). Sicrhau bod y contractau hyn yn diwallu anghenion TrC, yn cyd-fynd a'n gwerthoedd craidd ac yn sicrhau gwerth am arian. Datblygu fframweithiau caffael. Gweithio gyda thimau mewnol perthnasol i ddatblygu fframweithiau caffael pwrpasol y gall TrC eu defnyddio i gael gafael ar wasanaeth cyflenwyr trydydd parti. Arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu'r strategaeth a'r gweithgareddau ymgysylltu a'r farchnad. Ymgysylltu a chyflenwyr yn y meysydd perthnasol gan ennill dealltwriaeth drylwyr o'r farchnad a datblygu cysylltiadau sy'n gallu esblygu a bod o fudd i'r cyflenwr a TrC fel ei gilydd. Monitro a rheoli perfformiad cyflenwyr yn agos. Hyrwyddo rhagoriaeth weithredol a phrofiad cadarnhaol i gwsmeriaid. Sicrhau bod cyflenwyr yn glynu wrth gytundebau lefel gwasanaeth contractiol ac yn cydweithio i sicrhau bod y rhain yn cael eu bodloni neu y rhagorir arnynt.

Am beth rydyn ni'n chwilio



Profiad o weithio mewn swydd fasnachol/rheoli cysylltiadau. Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o weithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a/neu mewn amgylchedd caffael rheoledig, gan gynnwys gwybodaeth am gaffael a chyfraith contractau mewn perthynas a'r Ddeddf Caffael. Dealltwriaeth a phrofiad o reoli contractau gyda'r gallu i nodi cyfleoedd a risgiau. Profiad o'r diwydiant rheilffyrdd neu'r sector trafnidiaeth. Profiad amlwg o weithio gyda rhanddeiliaid allanol a dylanwadu arnynt. Gallu meithrin a chynnal perthnasoedd rhyngbersonol cryf. Llwyddiant blaenorol yn cyflawni prosiectau.

Sgiliau Cymraeg



Byddai'r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

Y camau nesaf



Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi'n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni'n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni'n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted a phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.

Job Types: Full-time, Fixed term contract
Contract length: 12 months

Pay: 50,000.00-55,000.00 per year

Work Location: Hybrid remote in Rhondda Cynon Taff CF37 4TH

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3470710
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Ynysybwl, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned