Crefftwyr Aml Grefft (ail Hysbyseb) / Multiskilled Craftsmen (re Advertisement)

WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Diolch am eich diddordeb yn y swyddi uchod.


Mae Gr?p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.


Rydym yn gwneud cam sylweddol i ehangu ein tim Gwasanaeth Cynnal a Chadw Mewnol (DLO) sydd yn rhan o'n strategaeth ehangach i wella a chyflymu'r broses o addasu eiddo gwag yn barod i'w osod i denantiaid newydd.


Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a gofalgar i fod yn rhan o'r siwrne ac i ymuno an tim Cynnal a Chadw. Mae'r swyddi hyn yn cynnig gyfleoedd cyffrous i unigolion syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.


Rydym yn chwilio am rywun sydd ar un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw.


Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, dyma'r swydd i chi.


Rydym yn chwilio am grefftwyr yn y crefftau canlynol:

Labrwr Peiriannydd Nwy a Phlymwr Plastrwr Saer Coed Peintiwr ac Addurnwr


Os hoffech sgwrs pellach am y swyddi hyn, cysylltwch a Shaun Jones, Rheolwr Atgyweiriadau a Cynnal a Chadw Cynlluniedig, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn



Math o gytundeb:

Parhaol

Cyflog:

Cystadleuol (i'w gweld yn y disgrifiadau swyddi)

Lleoliad:

Safleoedd Gwaith y Gymdeithas yn ardaloedd Dinbych/Wrecsam

Oriau Gweithio:

40 awr yr wythnos

Gwyliau:

30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal ar gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd

Teithio:

Defnyddio cerbyd a ddarperir gan y cwmni, syn cyd-fynd ar dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Gr?p Cynefin yn unig.

Pensiwn:

Mae Gr?p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Disgrifiadau Swyddi




DS GC Labrwr Aml-grefft.pdf


DS GC Peiriannydd Nwy a Phlymwr Aml-grefft.pdf


DS GC Plastrwr Aml-grefft.pdf


DS GC Saer Coed Aml-grefft.pdf


DS Peintiwr ac Addurnwr Aml-grefft.pdf

s




JD - Multiskilled Labourer.pdf


JD - Multiskilled Gas Eng Plumb.pdf


JD Multiskilled Plasterer.pdf


JD - Multiskilled Joiner.pdf


JD - Multiskilled Painter Decorator.pdf

Datblygiad Personol:




Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig ar wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol




Canllawiau cwblhau cais.pdf


Cyfweliadau: 03.09.25

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)




Byddwn yn gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad sylfaenol ar gyfer y swyddi hyn.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3420472
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned