Cyfarwyddwr Addysg Uwch

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am arweinydd rhagorol i weithredu cam cyffrous nesaf ein taith Addysg Uwch. Gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a llwybr clir tuag at Bwerau Dyfarnu Graddau Sylfaen, rydym yn ystyried rin ein hun yn un o ddarparwyr addysg uwch, galwedigaethol a thechnegol mwyaf blaenllaw Cymru.


Dyma gyfle unigryw i lunio newid trawsnewidiol, gan feithrin gallu, cynyddu cyfranogiad ac atgyfnerthu ein henw da fel darparwr AU arloesol a chynhwysol sy'n ffocysu ar y diwydiant. Bydd deiliad y swydd yn cyfuno gweledigaeth strategol a hygrededd gweithredol, gan sicrhau bod ein cynnig AU yn uchelgeisiol, yn gynaliadwy ac yn bodloni blaenoriaethau dysgwyr, cyflogwyr a'r rhanbarth.


Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sydd a'r sgiliau i gyflawni twf, rheoli newid a chynrychioli'r Coleg mewn modd awdurdodol ar lefel genedlaethol. Byddwch yn ysbrydoli staff, meithrin partneriaethau cadarn a phrifysgolion, cyflogwyr a rheoleiddwyr ac yn sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni canlyniadau rhagorol, gan gymryd rhan mewn cyfleoedd yn y byd go iawn.

Amser-Llawn (37 awr yr wythnos) Parhaol 65,123 y flwyddyn Abertawe

Blaenoriaethau allweddol:



Arwain gweithrediad Strategaeth Addysg Uwch y Coleg a sicrhau Pwerau Dyfarnu Graddau Sylfaen. Hybu twf sylweddol mewn darpariaeth AU, Lefel 4 ac uwch, gan roi ffocws cryf ar wella cyfranogiad a dulliau cyflwyno hyblyg. Meithrin partneriaethau strategol gyda phrifysgolion, cyrff dyfarnu, cyflogwyr a'r llywodraeth i hybu arloesedd a chyflogadwyedd graddedigion. Hyrwyddo datblygiad staff ac adnoddau i ymgorffori hunaniaeth a diwylliant AU ar draws y Coleg.

Dyma gyfle arbennig i arwain newid trawsnewidiol ac atgyfnerthu safle Coleg Gwyr Abertawe fel un o Golegau Addysg Uwch gorau Cymru.

Buddion:



37 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - 60 y flwyddyn Parcio am ddim Diodydd poeth am ddim pan fyddwch yn defnyddio cwpan amldro Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3837042
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned