Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyfrifoldeb am arwain ar Bolisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol y Cyngor a gweithredu fel yr unig bwynt cyswllt a phrif ymgynghorydd ar gyfer yr holl staff perthnasol a'r cyhoedd mewn perthynas a chwynion; a gweithredu fel yr unig bwynt cyswllt ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Darparu cymorth a chyngor proffesiynol i'r Swyddog Diogelu Data mewn perthynas a'r holl faterion sy'n ymwneud a Deddfwriaeth Mynediad at Wybodaeth. Bod yn bwynt cyswllt i'r Cyngor gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth mewn perthynas a mynediad at wybodaeth.
Cynorthwyo'r Swyddog Monitro a'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas a materion llywodraethu corfforaethol cyffredinol.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb person i'ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw:
Mared Yaxley
Rhif ffon:
01248 752566
Cyfeiriad e-bost:
maredyaxley@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100085
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.