Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno a'n tim Llyfrgell lle byddwch chi'n chwarae rol allweddol wrth gefnogi myfyrwyr.
Cyflog:
Graddfa 4, Pwyntiau 21 - 24, 28,086 - 30,246 y flwyddyn, pro rata sy'n gyfwerth a 23,622 - 25,438 y flwyddyn.
Contract:
Parhaol, amser llawn, rhan o'r flwyddyn, 37.8 wythnos y flwyddyn.
Ynglyn a chi:
Yn ddelfrydol, bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 5 (HND neu gyfwerth) a phrofiad o gyflwyno gweithdai/hyfforddiant. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 3, gan gynnwys profiad o ddefnyddio rhaglenni MS Office ac MS Teams. Mae profiad o ymchwil academaidd gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth printiedig ac ar-lein yn hanfodol.
Ynglyn a ni:
Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni?
Yn ogystal a chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy'n cynyddu bob blwyddyn yn unol a chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros 20 i'ch pensiwn, am bob 100 rydych chi'n ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth, a gan ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal a darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o'n prif golegau yn ogystal a lle i storio beiciau, ac os ydych wedi'ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.