Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel y'i cyhoeddwyd, mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru'n nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Un o'r saith blaenoriaeth gyffredinol yw bod plant "yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni a gofalwyr. Dylent gael eu cefnogi gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddynt symud rhyngddynt." Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer Ynys Mon yn cefnogi'r nod hwn hefyd, ac mae'r swydd hon yn cyfrannu at yr amcan hwnnw.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tim sy'n cyflenwi elfen ofal plant Llywodraeth Cymru o Dechrau'n Deg, ar gyfer plant 2-3 oed, sy'n cael ei rhoi ar waith yn raddol o Ebrill 2022, ac yn ddarpariaeth ran amser o ansawdd uchel gyda phwyslais ar ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y swydd hon yn ymwneud a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith a ddatblygwyd gan Gydlynydd Gofal Plant Sirol Dechrau'n Deg gyda darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg. Mae'r cynlluniau gweithredu'n rhan o Ganllawiau Gofal Plant Dechrau'n Deg ynghyd a'r gwaith o alluogi darparwyr i gyflawni safonau Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Mae'r swydd hon yn rhan o'r swyddogaeth blynyddoedd cynnar o fewn Uned Cefnogi Teuluoedd Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ynys Mon.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Kimberley Coll
Rhif ffon:
01407 767780
Cyfeiriad e-bost:
kimberleycoll2@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100384
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.