Dyma gyfle gwych i Gynorthwyydd Hamdden ymuno a thim brwdfrydig ac egniol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio tua
5-10 awr
yr wythnos dros benwythnos mewn rol hwyliog a phleserus.
Dan arweiniad y Rheolwr a'r Goruchwyliwr Dyletswydd, byddwch yn gyfrifol am weithredu'r Ganolfan Chwaraeon sydd wedi'i leoli ar gampws bywiog Tycoch.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys goruchwylio partion plant (wrth redeg), hyfforddi gweithgareddau a chynnal sesiynau cyflwyno i'r gampfa. Byddwch hefyd yn gosod ac yn datod offer, yn ogystal a chyflawni dyletswyddau cadw ty megis glanhau a diogelwch.
12.66 yr awr
Ni fydd gennych oriau gwaith penodol, a byddwch yn gweithio ar sail ad hoc
Byddwch yn cael eich talu mewn ol-daliadau e.e. byddwch yn derbyn tal am yr oriau a weithiwyd ym mis Mai ym mis Mehefin, ac yn y blaen.
Amdanoch chi:
Bydd gennych 5 cymhwyster TGAU (graddau A-C) neu'r cyfwerth a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae tystysgrif hyfforddi chwaraeon yn ddymunol yn yr un modd a chymhwyster cymorth cyntaf.
Os ydych chi'n credu eich bod yn meddu ar y sgiliau uchod, cysylltwch a ni!
Buddion:
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - 60 y flwyddyn
Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol
Parcio am ddim
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.