Cynorthwyydd Ymgysylltu â’r Campws (2 Swydd)

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

About us:




Gower College Swansea is one of the largest colleges in Wales with a strong reputation for high quality teaching and learning. We have six campuses across the city with over 4,500 full time learners and 10,000 part time learners. We currently have a turnover of over 50 million making us a major employer in the region with approximately 1,000 staff.


At Gower College Swansea we are passionate about investing in our staff and looking after their wellbeing to ensure they feel supported in work and also at home.

Y Rol:



Cynorthwyydd Ymgysylltu a'r Campws (2 swydd)



Llawn amser - 37 awr yr wythnos Tymor Penodol - 37 wythnos (tan 5 Gorffennaf 2026) 20,276.33 - 20,708.28 y flwyddyn Cyflog Cyfatebol Llawn Amser: 24,691 - 25,217 2 x Swydd (Ty Coch a Gorseinon)


Cyfrifoldebau Allweddol:




Darparu llwyfan i fyfyrwyr rannu adborth ar ddefnyddio ac ar wella mannau dysgwyr a chyfleoedd am gyfoethogi.


Bod yn ymatebydd cyntaf i ddigwyddiadau neu adroddiadau o wrthdaro, gan ddefnyddio dulliau dad-ddwysau ac adferol.


Helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o berthyn trwy annog gweithgareddau cynhwysol a chynrychiadol ar draws y campysau.


Cefnogi pob digwyddiad a gweithgaredd a drefnir gan gydweithwyr yn y tim Profiad y Dysgwr: Arweinydd Ymgysylltu a Dysgwyr a Datblygiad Personol, Arweinydd GCS Llesiant Egnetig, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Rheolwr Diogelu a Llesiant.


Hyrwyddo amgylchedd gwaith sy'n rhydd o wahaniaethu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.

Amdanoch Chi:



TGAU gradd A-C neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg. Profiad o weithio gyda myfyrwyr neu bobl ifanc mewn lleoliad addysgol neu gymunedol/ieuenctid. (Cais a Chyfweliad) Profiad o waith gweinyddol a chadw cofnodion yn gywir. (Cais a Chyfweliad)

Buddion:



28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles Angen cymorth gyda'ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3297527
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned