Darlithydd Tgau Saesneg

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:



10 awr yr wythnos Cyfnod Penodol 17.51 - 34.51 pyr awn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad) Tycoch / Llwyn Y Bryn

Cyfrifoldebau Allweddol:



Darparu addysgu a dysgu o safon uchel ar draws amrywiaeth o raglenni, gan greu amgylchedd cadarnhaol sy'n cynnig modd i bob dysgwr gyrraedd ei botensial o ran ei ddatblygiad academaidd, cymdeithasol a phersonol. Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau. Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau,

Amdanoch chi:



Cymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol Cymhwyster addysgu/hyfforddi neu barodrwydd i weithio tuag ato Lefel 2 (TGAU neu gyfwerth), gradd C neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd

Buddion:



28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.



Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3728656
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned