Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Byddwch yn bennaf yn gweithio yn y dderbynfa, a bydd gofyn ichi weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol a myfyrwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gymorth dysgu, a bydd gofyn i chi wneud hyn wyneb yn wyneb a thros y ffon, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a hyrwyddo Coleg Gwyr Abertawe.
12.80 - 13.07 yr awr
Campws Llwyn y Bryn
15 awr yr wythnos dros ddau ddiwrnod
Ystod y Tymor, 38 wythnos y flwyddyn
Cyfrifoldebau Allweddol:
Dyletswyddau derbynfa dyddiol - bydd hyn yn amrywio o gampws i gampws.
Ateb y ffon ac ymateb i e-byst.
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, gan eu cyfarch yn fewnol ac allanol e.e. paratoi a dosbarthu pasys i ymwelwyr a'u cyfeirio nhw at y mannau cywir.
Amdanoch chi:
Cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C).
Profiad o ddefnyddio systemau Microsoft Office a MIS
Sgiliau trefnu gwych a'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith.
Buddion:
28 pro rata diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Cyflog Amser Llawn Cyfatebol 24,691 - 25,217 y flwyddyn
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.
Job Detail
Job Id
JD3482638
Industry
Not mentioned
Total Positions
1
Job Type:
Full Time
Salary:
Not mentioned
Employment Status
Permanent
Job Location
Swansea, WLS, GB, United Kingdom
Education
Not mentioned
Apply For This Job
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.