Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth o fewn eich cymuned leol, gan gefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden?
Os ydych chi'n teimlo'n awyddus i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif, gwella eu lles a hoffech chi swydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol, yna Freedom Leisure yw'r lle i chi!
Ymddiriedolaeth hamdden nid-er-elw ydym ni gyda phwrpas ac ymrwymiad cryf i gefnogi ein cymunedau lleol a grwpiau anodd eu cyrraedd gan eu hannog i ddod yn fwy actif, gan gyfrannu at fywydau gwell.
O wersi nofio, i bel-droed cerdded a phopeth rhyngddynt, rydym yn awyddus i ddarparu sesiynau hwyl a chroesawgar i gefnogi'r gymuned gyfan i fod yn actif, yn ein canolfannau hamdden ac yn y gymuned leol.
Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Cyfleusterau i ymuno a'n tim cyfeillgar a phroffesiynol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Morgan Llwyd. Rydym yn chwilio am rywun i fod yn gyfrifol am weithrediad dyddiol y cyfleusterau, gan gynnwys agor a chau'r ganolfan. Byddwch yn goruchwylio'r gweithrediad, gan sicrhau bod lefel uchel o wasanaeth yn cael ei darparu, ynghyd a chydymffurfio a chanllawiau Iechyd a Diogelwch. Os ydych chi'n chwilio am eich cam nesaf, o fewn y diwydiant, yna rydym eisiau clywed gennych chi.
Yn Freedom Leisure rydym yn croesawu ein cymuned leol amrywiol i'n canolfannau bob dydd ac rydym am adlewyrchu'r un cymysgedd amlddiwylliannol hwnnw yn ein busnes hefyd. Rydym yn ymdrechu i greu gweithle cynhwysol ac amrywiol lle gall pobl fod nhw eu hunain, cael yr un cyfleoedd a ffynnu gyda'i gilydd. Oherwydd yn Freedom Leisure, Rydych Chi'n Bwysig!
Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ni waeth beth fo'u hoedran, hil, rhyw, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw bod y cyflogwr o ddewis yn ein diwydiant ac rydym yn ymdrechu am hyn bob dydd.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.