Glanhäwr

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Mae'r ddwy rol ar sail

barhaol

ac ar gyfradd fesul awr o

12.66.



Swydd Wag A - Tycoch



16 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn

Llun-Iau 5:15am i 8:30am, Gwener 5:15am i 8:15am

Swydd Wag B - Tycoch



16 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn (amser tymor)

Llun-Iau 5.15am - 8.30am, Gwener 5:15am i 8:15am

Nodwch yn glir pa swydd wag/swyddi gwag yr hoffech fynegi diddordeb ynddynt.



Cyfrifoldebau Allweddol:



Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod glanweithdra'r coleg yn cael ei gynnal yn ddyddiol. Bydd dyletswyddau'n cynnwys gwaith glanhau cyffredinol yn holl fannau'r coleg gan gynnwys defnyddio mopiau, sugnwyr llwch a dyfeisiau byffro a chaboli trydanol. Sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn, yn yr holl weithgareddau glanhau

Amdanoch chi:



Gallu gwneud amrywiaeth o weithgareddau glanhau a llaw Gallu cynnal glanweithdra o safon uchel yn unol a rotau penodedig Gallu gweithio oriau hyblyg weithiau

Buddion:



28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol (bydd angen i chi ddefnyddio eich gwyliau blynyddol y tu allan i'r tymor academaidd) gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3918722
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned