Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egniol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dibynadwy, disgybledig, a threfnus gyda sgiliau delweddu a golygu sy'n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno a'r tim Marchnata, Brand a Chreadigol ar gyfnod dros dro tan Ragfyr 31ain er mwyn cwblhau'r gwaith pwysig hwn. Rydym yn hapus ystyried gwaith hyblyg, rhan amser neu oriau penodol oddi wrth ymgeiswyr.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno a'n tim wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol newydd ddarlledu sydd yn cynnwys ffrydio a gwasanaethau aml blatfform.
Eich prif gyfrifoldeb fydd cynhyrchu delweddau o ddeunydd archif a gweithio fel rhan o brosiect metadata.
Mae metadata yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, megis: Technegol: hyd y rhaglen, sgorau/cyfraddau, Golygyddol: teitlau, crynodebau, genre, cast/creu, geiriau allweddol, Delweddau: delweddau cyfresi ac episodig. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i hyrwyddo cyfresi a phenodau ar lwyfannau dosbarthu partner fel BBC iPlayer, Samsung ac LG. Bydd hyfforddiant yn cael ei drefnu fel rhan o anwythiad.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.