Chwilio am swydd ym maes cefnogi?
Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Gr?p Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i:
gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Gr?p Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Mon, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.
Mae ein prosiectaun cynnwys llochesi, cynlluniau tai a chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.
Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau.
Fel Swyddog Cefnogi Gweithredol Gorwel byddwch yn:-
Darparu gwasanaeth cefnogaeth gweithredol o ansawdd uchel fel bod y gwasanaethau o fewn Gorwel yn rhagori gan gefnogi tim rheoli Gorwel a chyd weithio gydag aelodau eraill i gyflawni nod ac amcanion Gorwel.
Arwain ar brosesau drwy fonitro a darparu adroddiadau ysgrifenedig a dadansoddiad o ystadegau Gorwel gyda chefnogaeth Arweinwyddion Tim a Rheolwyr Gwasanaeth.
Cynorthwyo a chydlynu prosesau tendro a cheisiadau am arian.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.