Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Byddwch yn gyfrifol am lanweithdra'r Coleg ac yn goruchwylio Gwasanaethau Glanhau ar draws y Colege, byddwch hefyd yn hapus i gyfathrebu a chwsmeriaid a chydweithwyr.
Byddwch yn arwain a goruchwylio tim o Weithwyr Glanhau ac yn ymgymryd a thasgau glanhau ar gais y Rheolwr Glanhau a bydd hefyd gofyn i chi rhoi help llaw i'r Rheolwr Glanhau o bryd i'w gilydd, cyflwyno hyfforddiant, arweiniad ac anogaeth, yn ogystal a monitro perfformiad unigolion.
Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
Parhaol
28,387 - 30,850 y flwyddyn
Campws Gorseinon a Llys Jiwbili
Cyfrifoldebau Allweddol:
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sydd ag ymholiad sy'n ymwneud a glanweithdra
Sicrhau bod yr holl dasgau'n cael eu cwblhau yn unol a lefel y gwasanaeth a phob deddfwriaeth gan gynnwys Iechyd a Diogelwch
Blaenoriaethu ac ailddyrannu ardaloedd glanhau pan fydd staff yn absennol.
Amdanoch chi:
Profiad blaenorol o oruchwylio/rheoli staff
Profiad o lanhau a dyrannu a monitro ardaloedd glanhau
Y gallu i ddyrannu gwaith yn effeithiol
Gallu gweithio ar draws safleoedd y Coleg
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.