Gweinyddwr Cyflogres & Ad

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Gweithio ochr yn ochr a'r Swyddog AD i sicrhau bod y broses weinyddu AD yn cael ei rhedeg mewn modd di-dor, er mwyn cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i staff a rheolwyr. Prosesu dogfennaeth ar gyfer y gyflogres, gan gynnwys ffurflenni cychwyn a gadael, er mwyn sicrhau bod y gronfa ddata AD yn cael ei ddiweddaru. Bydd gofyn i chi hefyd ddiweddaru unrhyw gofnodion neu ffeiliau eraill sy'n ymwneud ag AD.

Rhan amser (30 awr yr wythnos) Dros dro am 1 flwyddyn 23,016 - 25,013 y flwyddyn Campws Tycoch

Cyfrifoldebau Allweddol:



Prosesu dogfennau cychwyn a gorffen ar gyfer y gyflogres, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir a bod gwiriadau cysylltiedig wedi'u cwblhau. Gweinyddu ymadawyr, cyfrifo hawliau gwyliau blynyddol, cyfarwyddo'r gyflogres a rhoi gwybod i'r adran AD. Coladu a phrosesu taflenni amser a delir fesul awr a hawliadau goramser o fewn y terfynau amser mewn modd manwl a chywir. Coladu, prosesu ac adolygu taliadau i ddarlithwyr rhan-amser, gan gadw at derfynau amser. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod archwiliadau priodol yn cael eu cynnal.

Amdanoch chi:



Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn Gweinyddu Busnes. Lefel 2 (Gradd A-C) neu'r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg Profiad o ddefnyddio Excel gan gynnwys fformiwlau a thablau colynnu Profiad o ymdrin a llawer iawn o ddata

Buddion:



28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023) 2 ddiwrnod lles i staff Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - 60 y flwyddyn Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3741181
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned