Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd Gwynedd / Homelessness Prevention Support Worker Gwynedd

Pwllheli, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.


Mae Gr?p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.


Mae

Gorwel

yn uned fusnes o fewn Gr?p Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:



gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd


Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Gr?p Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Mon, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.



Mae ein prosiectaun cynnwys llochesi, cynlluniau tai a chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.



Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

Gwasanaethau Atal

Digartrefedd yng Ngwynedd, Sir Ddinbych ac Ynys Mon



Gwynedd -

Llys Seion




Mae Cynllun Llys Seion yn safle gyda 6 o fflatiau ym Mhwllheli ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref er mwyn cynnig cefnogaeth a chyngor i fyw yn annibynnol. Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol yn wasanaeth ar gyfer trigolion Gwynedd er mwyn cefnogi teuluoedd ac unigolion i fyw yn eu cartref yn llwyddiannus ac annibynnol.


Cynllun Cydgysylltydd Digartrefedd Gwynedd



Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cefnogi o ansawdd uchel mewn perthynas a thai ar gyfer pobl sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd, sydd ag anghenion aml gefnogaeth a allai gynnwys cyfuniad o faterion megis digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, iechyd meddwl a phroblemau anabledd dysgu lefel isel. Bydd y gwasanaeth yn targedu'r bobl hynny sydd ag anghenion cefnogaeth uchel.


Sir Ddinbych



Yr Hafod



Prosiect tai a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed ac sydd wedi ei leoli yn Ninbych ywr Hafod. Bydd staff yn gweithio gyda phobl ifanc er mwyn cynllunio ar gyfer eu dyfodol drwy gynorthwyo ac annog sgiliau i reoli tenantiaeth ac i feithrin sgiliau er mwyn cael mynediad i waith.


Maer Hafod yn cydweithion agos gydar HWB sydd yn rhan or un adeilad. Eto yn yr Hafod, mae Cynllun Cefnogaeth Symudol ar gael i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cefnogaeth i sefydlu a chynnal eu tenantiaeth yn lleol.

Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Mon



Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng





Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Mon gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched au plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref.

Cynllun Cefnogaeth Symudol





Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol gennym yn cefnogi merched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Mon. Byddwch yn cefnogi ac ysgogi defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llwyddo i fyw bywyd di-drais au helpu i adennill rheolaeth dros eu bywydau er mwyn hybu annibyniaeth.


Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

Y Pecyn



Math o gytundeb:

Tymor penodol hyd 31/12/2025

Cyflog:

24,493 y flwyddyn pro rata

Gwyliau:

36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

Teithio:

Defnyddiwr Car Achlysurol

Pensiwn:

Mae Gr?p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Buddiannau





Pecyn Buddion.pdf
Benefits Package.pdf

Sut i Ymgeisio am y swydd





Canllawiau cwblhau cais.pdf


Disgrifiad Swydd: DS Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd Gwynedd 07.2025.pdf


Job description: JD Gwynedd Support Worker Homeless Prevention 07.25.pdf

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)




Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3393790
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Pwllheli, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned