Head Of Dance

Cardiff, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Pennaeth Dawns



Rhan amser, 18.5 awr yr wythnos



Cytundeb parhaol



Gradd E: Cyflog cychwynnol o 28,143 (56,286 y flwyddyn llawn amser)



Lleoliad: Gellir lleoli'r rol hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.



Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rol



Mae Pennaeth Dawns yn rol arweinyddiaeth strategol sy'n canolbwyntio ar yrru datblygiad ac adfywiad sector dawns Cymru. Gan adrodd i Ddirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn hyrwyddo amrywiaeth a rhagoriaeth ar draws pob ffurf dawns. Byddwch yn rheoli tim arbenigol, yn llunio blaenoriaethau polisi a buddsoddi, ac yn meithrin partneriaethau cryf i gefnogi ecosystem dawns fywiog a gwydn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ymgorffori blaenoriaethau allweddol fel yr iaith Gymraeg, gweithredu ar yr hinsawdd, a chynhwysiant.

Amdanoch chi



Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol yn y sector dawns gyda chefndir mewn ymarfer, cyfeiriad creadigol, neu reolaeth weithredol o fewn cymuned ddawns Cymru. Gyda gwybodaeth ddofn am ddeinameg a pholisi diwylliannol y sector dawns, rydych chi'n rhagori wrth adeiladu cymunedau creadigol amrywiol a chyflwyno fframweithiau strategol sy'n meithrin talent a rhagoriaeth artistig. Yn fedrus mewn adeiladu partneriaethau a chydweithio traws-sector, rydych chi'n dod ag angerdd dros hyrwyddo dawns fel ffurf gelf hanfodol ac ymrwymiad i ymgorffori gwerthoedd diwylliannol a chynaliadwyedd Cymru yn eich gwaith.

Yr Iaith Gymraeg



Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg yn sgil penodi os nad ydych yn gallu'r Gymraeg eisoes. Er nad oes disgwyl i chi fod yn gallu'r Gymraeg wrth geisio, rydym yn chwilio am unigolyn sy'n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda'r iaith Gymraeg ac sy'n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o'r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a'r sector ehangach.

Amrywiaeth a chynhwysiant



Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Sut i ymgeisio



Os hoffech chi gyflwyno'ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch a ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau

: 5yh, Dydd Gwener 8fed Awst 2025

Cyfweliadau

: 28ain o Awst 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd)

Gweithio hyblyg



Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio'r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno'ch cais.

Head of Dance



Part-time, 18.5 hours per week



Permanent Contract



Grade E: Starting salary of 28,143 (56,286 per annum - full time equivalent)



Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.



Our benefits include 30 days' annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).

About this role



The Head of Dance is a strategic leadership role focused on driving the development and revitalisation of Wales's dance sector. Reporting to the Deputy Director of Arts, you will champion diversity and excellence across all dance forms. You'll manage a specialist team, shape policy and investment priorities, and build strong partnerships to support a resilient, vibrant dance ecosystem nationally and internationally, while embedding key priorities such as the Welsh language, climate action, and inclusion.

About you



We're seeking an experienced dance sector leader with a background in practice, creative direction, or executive management within Wales's dance community. With deep knowledge of dance sector dynamics and cultural policy, you excel at building diverse creative communities and delivering strategic frameworks that nurture talent and artistic excellence. Skilled in partnership-building and cross-sector collaboration, you bring a passion for advancing dance as a vital art form and a commitment to embedding Welsh cultural values and sustainability in your work.

Welsh language



We work in both English and Welsh. Fluency in Welsh (both written and spoken) is desirable but not essential for this post. However, a commitment to learning and speaking Welsh to a standard enabling its use in Council business is essential.

Diversity and Inclusion



The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve.

The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.

How to apply



If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.

Closing date

: 5pm Friday 8th August 2025

Interview date

: 28th of August 2025 (In person in our Cardiff Office)

Flexible working



In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

Please clearly state your proposal for working anything other than the advertised hours in your covering email upon submitting your application.

Job Types: Part-time, Permanent

Pay: 28,143.00 per year

Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF10

Reference ID: ELDUZ0808/RB

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3406176
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Part Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Cardiff, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned