Nursery Assistant (bank Staff) /cynorthwyydd Meithrin (staff Banc)

Pontypridd, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?



Mae Meithrinfa Garth Olwg wedi ei lleoli ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn chwilio am staff egniol a brwdfrydig i ymuno a'r tim. Mae'r feithrinfa Gymraeg hon yn cynnig gofal o safon i blant bach yr ardal.



I ymgeisio am y swydd ewch i:https://meithrin.cymru/jobs/cynorthwyydd-achlysurol-staff-banc-meithrinfa-garth-olwg-3/



Y Mudiad

: Ry'n ni'n angerddol am roi'r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy'r Gymraeg, a'n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio'n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae'n holl Gylchoedd a'n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry'n ni hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi'r Gymraeg i'w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg.

Mae bron i 300 o staff yn rhan o deulu Mudiad Meithrin gyda 2,000 yn gweithio yn lleol yn y Cylchoedd a'r Meithrinfeydd dydd. Ry'n ni eisiau i'r Mudiad fod yn gyflogwr sy'n denu gr?p amrywiol o unigolion talentog i weithio iddo, gan aros a'n hargymell fel cyflogwr da. Rydym yn rhoi ein ffydd yn ein staff ac yn rhoi'r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles ein haelodau, ein pobl a'u hunain. Mae adlewyrchu'r cymunedau ry'n ni'n cefnogi yn bwysig i ni felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.

Gwerthoedd Gwaith Mudiad Meithrin



Dyma'r gwerthoedd sydd yn llywio gwaith a gweithgarwch staff Mudiad Meithrin

Caredig a chyfrifol -

dangos parch at ein hunain, at waith ein gilydd, at bob un sydd yn dod i gysylltiad ? ni yn ein gwaith ac at ein cynefin a'n byd

Tryloyw ac anrhydeddus -

trwy dryloywder a gonestrwydd, bod yn atebol am ein penderfyniadau, bod yn barod i gyfaddawdu ac i ddysgu o'n camgymeriadau

Proffesiynol ac adeiladol -

gwneud ein gorau o hyd gan anelu at greu gwaith o safon uchel, bod yn arloesi a mentro gan roi bri ar ddatblygu'n hunain

Cynhwysol a chroesawgar -

gweithredu'r egwyddor fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ei fod yn gyfrwng i'n huno a'i bod yn sylfaenol i bob agwedd o'n gwaith

Y Feithrinfa:

Mae Meithrinfa Garth Olwg, Pentre'r Eglwys yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae'r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.

Lleoliad:



Meithrinfa Garth Olwg, Pentre'r Eglwys, Pontypridd

Gwneud Cais:

Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar gyfer y swydd. Ni dderbynnir CV yn lle ffurflen gais. Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr nodi sut y maent yn ateb y gofynion hanfodol, a dymunol os yn berthnasol, fel y nodir yn y fanyleb person.

Mwy am Mudiad Meithrin

: I ddarganfod mwy o fanylion am Mudiad Meithrin, ewch i'n gwefan dilynwch ni ar 'Twitter' (@MudiadMeithrin) neu ewch i'n tudalen 'facebook'.

Dyletswyddau'r Swydd:



Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr am gyflawni'r dyletswyddau canlynol:

Dilyn arweiniad yr Arweinydd Ystafell i:

Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o'r safon uchaf

Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisiau'r Feithrinfa

Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol

Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg

Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ol ei anghenion

Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd a'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol

Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant

Croesawu rhieni i'r Feithrinfa ar bob adeg

Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i'r plant

Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o'u hamgylchedd

Arddangos gwaith y plant

Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o'r tim a sicrhau mewnbwn i drefniadau'r dydd

Cydweithio i weithredu gofynion Dysgu Sylfaen

Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i'r plant o fewn y feithrinfa

Trochi'r plant yn y Gymraeg drwy gydol y dydd.

Disgwylir i bob aelod o staff gyfathrebu'n Gymraeg gyda'u cyd-weithwyr

Cydymffurfio a rheoliadau iechyd a diogelwch ar bob amser

Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd a gofynion iechyd a diogelwch, a'u bod yn cael eu cadw'n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd

Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg

Sicrhau bod yr ystafell a'r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar

Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa

Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg

Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ol cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.

Job Type: Zero hours contract

Pay: 12.21 per hour

Language:

Cymraeg / Welsh (required)
Work Location: In person

Application deadline: 30/06/2025

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3109744
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Pontypridd, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned