Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Darparu gwasanaeth Gyllid o ansawdd uchel i gwsmeriaid ar draws y Coleg, gan annog rheolwyr a staff i gyflawni amcanion strategol a gweithredol y Coleg. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hefyd fod yn gyfrifol am weithredu Strategaeth Ariannol y Coleg.
37 awr yr wythnos
Parhaol
58,544 y flwyddyn
Campws Hill House, SA2
Cyfrifoldebau Allweddol:
Rheoli swyddogaethau cyllid y Coleg yn ddyddiol, gan gynnwys rheoli staff yr adran gyllid.
Gwneud yn siwr bod y Coleg yn gwneud taliadau statudol mewn pryd (PAYE, pensiynau NI ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig a'r gyflogres).
Adolygu a monitro agweddau ariannol unrhyw gyllid FCF.
Sicrhau bod argymhellion (sy'n gysylltiedig a chyllid) yr archwilwyr mewnol ac allanol yn cael eu gweithredu.
Gweithio gyda rhanddeiliaid cyllidebau er mwyn paratoi a lledaeni cyfrifon rheoli costau gan nodi unrhyw amryweddau.
Amdanoch chi:
Gradd neu gymhwyster cyfatebo
Yn gyfarwydd a phob agwedd o'r Safonau Cyfrifyddu, deddfwriaeth Cyflogres, deddfwriaeth TAW ac arferion gorau sy'n gysylltiedig a Chyllid
Profiad o ddefnyddio pob agwedd o feddalwedd systemau ariannol
Profiad o ddatblygu, gweithredu ac adolygu systemau cyllid er mwyn gwella perfformiad.
Gweithio gyda rhanddeiliaid cyllidebau er mwyn paratoi a lledaeni cyfrifon rheoli costau gan nodi unrhyw amryweddau.
Profiad o gyflwyno mentrau strategol yn ogystal a darparu ac adolygu gwasanaeth gweithredol.
Buddion:
37 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.