Rheolwr Datblygu Busnes (cytundeb blwyddyn - dros gyfnod mamolaeth)
Adran y Swydd:
Canolog
=========================
Lleoliad y Swydd:
Waunfawr ac Caernarfon
============================================
Gradd y Swydd:
Atebol i:
Prif Weithredwr
Deiliad y swydd:
Staff cyflogedig a chyfrifoldeb uniongyrchol amdanynt:
###
Nod Cyffredinol y Swydd
Gweithredu yn flaengar i gefnogir Uwch Dim Rheoli, ac sicrhau perfformiad prosiectau yn erbyn amcanion Antur Waunfawr
Mewn cydweithrediad ar Uwch Dim Rheoli arwain ar brosiectau yr Antur ganreoli a monitro cynnydd yn erbyn targedau
Adnabod cyfleoedd masnachol er mwyn datblygiad strategol y busnesau o dan arweiniad y Prif Weithredwr
Sicrhau bodIechyd a Llesiant yn themau ganolog ym mhob prosiect. Disgwylir ir Rheolwr Datblygu Busnes gyfrannu yn adeiladol tuag at nod ac amcanion Antur Waunfawr yn eu cyfanrwydd
Prif Ddyletswyddau
----------------------
Gweithredu yn flaengar i gefnogir Uwch Dim Rheoli, ac sicrhau perfformiad prosiectau yn erbyn amcanion Antur Waunfawr.
Yn gyfrifol, mewn cyd-weithrediad gydar Prif Weithredwr ar Uwch Dim Rheoli am arwain datblygiad strategol busnesaur Antur.
Cyd-weithio efor Rheolwyr i uchafu niferoedd cwsmeriaid ir busnesau a gwasanaethau er mwyn eu gwneud yn atyniadol a llwyddiannus. Sicrhau meithrin gofal cwsmer a ffyddlondeb cwsmer.
Cydweithio gydar Rheolwr Marchnata a Chyfarthrebu ac Rheolwyr i feithrin agwedd gofal cwsmer ardderchog.
Cymryd cyfrifoldeb ac arwain ar gyflwyno adroddiadau cywir a pherthnasol ar gyfer eu cyflwynoi arianwyr, pwyllgorau a phartneriaid.
Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni.
Adrodd i Fwrdd Rheoli Antur Waunfawr ar gynnydd y prosiect gan ddarparu ystadegau gwerthiant , llwyddiannau targedau, a thwf y busnes yn gyffredinol. Cydweithio gyda y Prif Weithredwr, Uwch Dim Rheoli ar Rheolwr Cyllid i adolygu incwm a gwariant prosiectau.
Mewn cydweithrediad ar Uwch Dim Rheoli arwain ar brosiectau yr Antur ganreoli a monitro cynnydd yn erbyn targedau.
Arwain ar brosiectau gweinyddiaeth yr elfennau busnes, gweithdrefnau, systemau a pholisiau i sefydlu, datblygu a chynnal busnesau. Hefyd eu monitro a gwerthuso ac adrodd ir Uwch Dim Rheoli.
Paratoi adroddiadau a cyflwyniadau ir bwrdd, partneriaid, sefydliadau, arianwyr a pwyllgorau fel bo angen.
Arwain a chydweithio i baratoi a gweithredu ceisiadau grant a chynlluniau gweithredu, cynlluniau busnes, prosiectau ac adrannau fel bor angen. Dadansoddi gwariant ar brosiectau, offer ayb.
Adnabod anghenion a darganfod cyngor busnes a chefnogaeth fel bor angen.
Cyd-weithio efor Rheolwr Marchnata a Chyfarthrebu i sicrhau fod gwefan a chyfryngau cymdeithasol ynghyd ar brand yn adlewyrchu busnesau Antur Waunfawr.
Adnabod cyfleoedd masnachol er mwyn datblygiad strategol y busnesau o dan arweiniad y Prif Weithredwr
Arwain a bod yn rhagweithiol i gynyddu ffynonellau incwm a llwyddiant masnachol prosiectau
Arwain ar y broses tendro mewn perthynas a phrosiectau a gwasanaethau.
Meithrin a datblygu perthynas gydag asiantaethau, busnesau lleol a phartneriaid, a chyrff Cenedlaethol, mentrau cymdeithasol a chyrff gwirfoddol a statudol ar sector breifat ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru yn bennaf.
Datblygu cynlluniau busnes yn ol y galw mewn cydweithrediad ar Prif Weithredwr.
Cydweithio gyda Rheolwyr i reoli rhestr cyflenwyr cymeradwy.
Adnabod cyfleoedd masnachol i werthu gwasanaeth i fentrau neu cwmnioedd lleol.
Sicrhau bodIechyd a Llesiant yn themau ganolog ym mhob prosiect. Disgwylir ir Rheolwr Datblygu Busnes g
yfrannu yn adeiladol tuag at nod ac amcanion Antur Waunfawr yn eu cyfanrwydd.
Cyd-weithio a thrafod prosiectau efo Rheolwyr, Staff, grwpiau ac adrannau Antur Waunfawr gan ddethol a blaenoriaethu cynnyrch a gwasanaethau newydd.
Gwirio fod llesiant a chefnogaeth weithgar yn nodweddion syn treiddio drwy holl fusnesau newydd a gweithgaredd busnes Antur Waunfawr.
Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel bor galw, a defnyddio arbenigedd ar draws y Cwmni.
Gweithio fel aelod or tim ar brosiectau neu fentrau cymdeithasol eraill Antur Waunfawr yn ol y galw.
Gweithredu fel cynrychiolydd Antur Waunfawr yn y gymuned.
RHAN DAU
Arolygaeth
Dim
2.
Awdurdod
I ba raddau mae disgwyl ir swydd-ddeiliad:-
a) Symbylu, cynnig a datblygu polisi?
Weithiau.
+ Dewis a diswyddo staff (dangoswch ain gyflogedig neun hunan-gyflogedig).
Weithiau.
c) Adolygu perfformiad a hyfforddi/datblygu staff.
Ie, gan drafod gofynion gyda r Prif Weithredwr a/neur Uwch Dim Rheoli
Cyswllt ag Eraill
Pwy
(teitl y swydd)
Pam
Pa Mor Aml
O fewn Antur Waunfawr:
Adran Gyllid
Adran Adnoddau Dynol
Uwch Dim Rheoli
Gweithwyr Cefnogol
Ceisiadau Grantiau
Gosod Cyllideb prosiectau
Monitro gwariant prosiectau
Materion Staffio
Materion Iechyd a Diogelwch
Materion Yswiriant
Materion TGH, GDPR
Darpariaeth Gwasanaeth
Materion Staffio
Materion Iechyd a Diogelwch
Materion TGH
Darparur gwasanaeth
Dyddiol
Cyson
Dyddiol
Cyson
Allanol
Cyrff ariannu
Allanol megis WCVA, Llywodraeth Cymru, lotri ayb
Gweithio mewn partneriaeth gydag Cyngor Gwynedd, Cadw, YGC
Gweithwyr Cymdeithasol
Gwasanaethau Iechyd e.e. Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Lleferydd, Meddyg Teulu
Teulu/gofalwyr
Cwsmeriaid
Ceisiadau ariannol, ymgynghorwyr busnes
Cytundebau Gwasanaeth
Prosiectau Tri Busnes Gwyrdd, Prosiect Iechyd a Llesiant
Gofynion Gwasanaeth
Gofynion Iechyd
Trafod darpariaeth a gofynion gwasanaeth
Darparu gwasanaeth
Cyson
Dyddiol
Achlysurol
Achlysurol
Achlysurol
Fel bor galw
4.
Canlyniad Camgymeriadau
Gallai un neu fwy o gamgymeriadau greu niwed ir unigolion, allai arwain at golli ymddiriedaeth yn y gwasanaeth fyddai yn ei dro yn niweidio enw da Antur Waunfawr. Gallai hefyd arwain at achosion Llys Barn a byddai hyn yn niweidio gallur Cwmni i gystadlu am waith pellach yn y dyfodol.
5.
Maint Cymharol y Swydd
Cyfanswm y staff yn gyfrifol amdanynt : 0
Cyfrifoldeb cyllidebol cyfartalog bob blwyddyn: Amrywiol yn dibynnu ar y pwyslais datblygu busnes
Cyfrifoldeb codi arian cyfartalog bob blwyddyn: Fel bor galw
Cyfrifoldeb tuag at yr unigolion: Canolig
Nifer y prosiectau ynghlwm wrthynt ar unrhyw un adeg: 1-3
Eraill, rhowch fanylion: -
6.
Sgiliau
Hyd y cyfnod ymgyfarwyddo arferol angenrheidiol er mwyn galluogir swydd-ddeiliad i berfformio ar lefel dderbyniol
6 mis
Rhestrwch y sgiliau arbenigol
angenrheidiol
er mwyn gwneud y swydd.
Sgiliau arwain a rheoli effeithiol a'r gallui annog a chefnogi staff
Cymhelliant ac awydd i weithredu mewn modd masnachol ar ran yr adrannau ar Cwmni
Person hunanysgogol a syn derbyn cyfrifoldeb
Y gallu i weld cyfleoedd busnes a gweithredu arnynt i greu incwm cynaliadwy
Y gallu i arwain, cydweithio ac i fedru gweithio yn annibynnol
Sgiliau cyfathrebu da iawn yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg
Y gallu i baratoi adroddiadau manwl a chywir i bwyllgorau, cyllidwyr ac ati
Sgiliau cyfrifiadurol da gan gynnwys word, excel, powerpoint, basdata, photoshop, e-bost ar we
Sgiliau rhyngbersonol da
Profiad o drin arian a rheoli cyllidebau
Dealltwriaeth o rol a diwylliant mentrau cymdeithasol yn hanfodol
Profiad busnes/entrepreneuriaeth yn ddymunol
Profiad o arolygu neu reoli staff a chynllunio gwasanaeth yn ddymunol
Profiad o drafod a negydu efo staff a chyrff allanol yn hanfodol
Profiad o ganllawiau Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol
Rhestrwch y cymwysterau addysgol/galwedigaethol
angenrheidiol
ar gyfer y swydd
+ Y gallu i gwblhau cyrsiau Rheoli Busnes a Rheoli Pobol Dangoswch i ba raddau y maer cymwyseddau canlynol yn
angenrheidiol
i wneud y swydd.
Blaengarwch: Uchel
Agwedd bositif/hyblyg: Uchel
Gweithio mewn tim: Uchel
Gwybodaeth a sgiliau penodol: Uchel
Sgiliau Rheoli: Canolig
Sgiliau Arwain: Canolig
Goruchwylio a galluogi: Canolig
Sgiliau rhyngbersonol: Uchel
Rhyddid i weithredu: Canolig
Gwneud penderfyniadau: Canolig
Creu amgylchedd weithio hwylus: Uchel
Dylanwad ar eraill : Uchel
Cyfraniad tuag at gael eraill i gydweithio: Uchel
Cyfrifoldeb ehangach am y sefyllfa (y darlun ehangach): Canolig
Ymateb i sefyllfaoedd heriol gydau datrysiadau eu hunain: Uchel
Dealltwriaeth o ddiwylliant Antur Waunfawr: Uchel
7.
I ba raddau mae disgwyl ir swydd-ddeiliad fod yn rhagweithiol?
Drwyr amser.
8.
I ba raddau mae oriau anghymdeithasol (e.e. gydar nosau / penwythnosau) yn angenrheidiol er mwyn gwneud y swydd?
Fel bor galw
9. Hyblygrwydd
Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi yn fanwl a gallant newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb.
Yn ychwanegol, maen ofynnol i bob aelod o staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau au cyfrifoldebau, a phan bo angen, cyfnewid o fewn y Cwmni er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion syn newid yn barhaus. Bydd angen or fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr ar gweithwyr.
Os hoffech wneud cais am y rol hon, bydd angen i chi lenwi a lanlwytho'r ffurflen gais.Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost i swyddi@anturwaunfawr.cymru
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.