Solicitor/conveyancer

Porthmadog, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Mae Tim Winrows Law yn chwilio am Gyfreithiwr Trawsgludo a/neu Ewyllysiau a Phrofiant neu Drawsgludwr profiadol gan ein bod yn ehangu'r busnes. Bydd y lleoliad yn un (neu fwy os dymunwch) o'n swyddfeydd yng Nghaergybi neu Gaernarfon ac yn fuan ym Mhorthmadog a Phwllheli pan fyddwn yn uno gyda Chwmni Cyfreithiol Robyns Owen, cwmni lleol a sefydlwyd yn 1882. Os ydych yn Drawsgludwr Preswyl yn chwilio am her newydd yn gweithio gyda thim gwych, cefnogol mewn cwmni cyfreithiol modern, cyfeillgar yng Ngogledd Cymru, dyma'r swydd berffaith i chi.



Byddwch yn gyfreithiwr cymwys neu'n Drawsgludwr profiadol neu CILEX gyda chefndir mewn Trawsgludo Preswyl/Eiddo/Ewyllysiau a Phrofiant.



Byddwch yn gyfrifol am eich llwyth achosion eich hun o drafodion Trawsgludo Preswyl a/neu Ewyllysiau a Phrofiant o'r cyfarwyddyd i'r cwblhau.



Y gobaith yw y byddwch yn dod yn rhan o'r tim ac yn chwarae rhan wrth lunio twf a datblygiad y cwmni, darparu syniadau a barn am ddatblygiad y busnes, a bod yn rhan o dwf hirdymor y cwmni.



Rydym yn gwmni newydd gyda thim gwych o bobl sy'n credu y gall pawb gyrraedd eu potensial gan gefnogi ei gilydd a darparu gwasanaeth gwych i'r cwsmer.



Bydd pob cais yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.



Cyfrifoldebau - Trawsgludo



? Rheoli'r broses drawsgludo o'r cyfarwyddyd i'r diwedd, gan sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion cyfreithiol.

? Cyfathrebu'n effeithiol gyda chleientiaid, cyfreithwyr, gwerthwyr tai, a rhanddeiliaid eraill trwy gydol y trafodiad.

? Paratoi ac adolygu dogfennau cyfreithiol fel contractau, gweithredoedd trosglwyddo, a dogfennau morgais.

? Cynnal chwiliadau eiddo ac ymchwiliadau i sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth berthnasol.

? Rhoi cyngor clir i gleientiaid ar y broses drawsgludo ac unrhyw broblemau posib a all godi.

? Cadw cofnodion a dogfennaeth gywir ar gyfer pob achos yn unol a pholisiau'r cwmni.

? Defnyddio systemau TG i reoli ffeiliau achos a hwyluso cyfathrebu gyda chleientiaid a chydweithwyr.

? Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn cyfraith eiddo ac arferion trawsgludo i roi cyngor gwybodus.

Ewyllysiau a Phrofiant



? Rheoli materion profiant o dderbyn y cyfarwyddyd i'r diwedd gan sicrhau bod yr holl asedau'n cael eu casglu a sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r holl fuddiolwyr a dyledwyr a'u bod nhw'n cael eu talu'n brydlon.

? Cymryd cyfarwyddiadau gan gleient a chynghori yn unol a hynny gan roi sylw priodol i'w gofynion, treth a goblygiadau eraill.

? Cyfathrebu'n sensitif gyda chleientiaid drwy'r amser.

? Paratoi, adolygu a dehongli dogfennau cyfreithiol fel ewyllysiau, datganiadau gwirionedd ysgutorion a ffurflenni IHT.

? Rhoi cyngor clir i gleientiaid ar y broses brofiant ac unrhyw broblemau posib a all godi.

? Cadw cofnodion a dogfennaeth gywir ar gyfer pob achos yn unol a pholisiau'r cwmni.

? Diweddaru eich hun am unrhyw newidiadau yn y gyfraith gan gynnwys cyfraddau IHT, trothwyon ac eithriadau.

Gofynion



? Byddwn yn dymuno gweld bod gennych brofiad y gellir ei brofi mewn trawsgludo neu faes cyfreithiol cysylltiedig.

? Sgiliau TG cryf, gan gynnwys dealltwriaeth gadarn o feddalwedd rheoli achosion a rhaglenni Microsoft Office.

? Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda'r gallu i egluro cysyniadau cyfreithiol cymhleth yn glir.

? Person trefnus iawn, sy'n gallu talu sylw i fanylion a'r gallu i reoli amser yn effeithiol dan bwysau.

? Datrys problemau mewn ffordd ragweithiol a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dim.

? Mae cymhwyster perthnasol yn y gyfraith neu drawsgludo yn hanfodol.

Os mai cyfraith eiddo yw eich maes delfrydol chi a'ch bod chi'n chwilio am gyfle i ddatblygu eich gyrfa mewn amgylchedd cefnogol, rydym yn eich annog i wneud cais am y swydd gyffrous hon fel Trawsgludwr/Cyfreithiwr. Cynllun cyflog a bonws i'w drafod.

Math o swydd: Llawn amser

Cyflog: Cystadleuol - dibynnu ar oed a phrofiad

Tal ychwanegol:

? Cynllun bonws

Diwrnodau gwaith:

? Dydd Llun i Ddydd Gwener

The Winrows Law Team is looking for a Conveyancing and/or Wills and Probate Solicitor or an experienced Conveyancer due to expansion. The location will be at one (or more if you want) of our offices in Holyhead or Caernarfon and shortly Porthmadog and Pwllheli when we will be merging with Robyns Owen Solicitors, a local firm established in 1882. If you are a Residential Conveyancer looking for a new challenge working with a great, supportive team in a friendly, modern law firm in stunning North Wales, we're looking for you.



You will be a qualified Solicitor or an experienced Conveyancer or CILEX with a background in Residential Conveyancing/Property/Wills & Probate



You will be responsible for your own caseload of Residential Conveyancing and/or Wills & Probate transactions from instruction to completion.



It is hoped that you will become part of the team and play a part in shaping the growth and development of the firm, providing ideas and opinions about business development, and being an active part of the firm's long-term growth.



We are a new firm with a great team of people who believe in everybody reaching their potential, supporting each other and providing great customer service.



All applications will be dealt with in the strictest of confidence.



Responsibilities - Conveyancing



Manage the conveyancing process from instruction to completion, ensuring compliance with legal requirements. Communicate effectively with clients, solicitors, estate agents, and other stakeholders throughout the transaction. Prepare and review legal documents such as contracts, transfer deeds, and mortgage documents. Conduct property searches and investigations to ensure all relevant information is obtained. Provide clients with clear advice on the conveyancing process and any potential issues that may arise. Maintain accurate records and documentation for each case in accordance with company policies. Utilise IT systems to manage case files and facilitate communication with clients and colleagues. Keep up-to-date with changes in property law and conveyancing practices to provide informed advice.

Wills and Probate



Manage probate matters from instruction to completion ensuring all assets are gathered and ensuring all beneficiaries and debtors are identified and promptly paid.

Take client's instructions and advise accordingly paying careful attention to their requirements, tax and other implications.

Communicate sensitively with clients throughout.

Prepare, review and interpret legal documents such as wills, executors' statements of truth and IHT forms.

Provide clients with clear advice on the probate process and any potential issues that may arise.
Maintain accurate records and documentation for each case in accordance with company policies.

Keep up to date with changes in law including IHT rates, thresholds and exemptions.

Requirements



Proven experience in conveyancing or a related legal field is preferred. Strong IT skills, including proficiency in case management software and Microsoft Office applications. Excellent communication skills, both written and verbal, with the ability to explain complex legal concepts clearly. Highly organised with exceptional attention to detail and the ability to manage time effectively under pressure. A proactive approach to problem-solving and the ability to work independently as well as part of a team. A relevant qualification in law or conveyancing is essential.
If you are passionate about property law and looking for an opportunity to grow your career in a supportive environment, we encourage you to apply for this exciting position as a Conveyancer/Solicitor. Salary and bonus scheme to be discussed.

Job Type: Full-time

Wages: Competitive - depends on age and experience

Additional pay:

Bonus scheme
Schedule:

Monday to Friday
Job Types: Full-time, Permanent

Work Location: In person

Reference ID: Cyfreithiwr/Solicitor

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD4157234
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Porthmadog, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned