Ydych chi am wneud gwahaniaeth oddi fewn i'ch cymuned leol, cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden?
Os ydych chi'n teimlo wedi'ch ysgogi i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif a gwella eu llesiant ac os hoffech chi gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw'r lle i chi!
Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw ydym ni ac mae gennym ni ddiben ac ymroddiad cryf i gefnogi ein cymunedau lleol a grwpiau lleol anodd cyrraedd atynt, i'w hannog i ddyfod yn fwy actif, a chyfrannu at fywydau gwell.
O wersi nofio i bel-droed dan gerdded a phopeth rhyngddynt, cawn ein hysgogi i ddarparu hwyl a sesiynau croesawgar i gefnogi'r gymuned gyfan i fod yn actif, yn ein canolfannau hamdden ac yn y gymuned leol.
Yr hyn sy'n dda yw ein bod ni'n darparu hyfforddiant llawn i chi a photensial gret am ddilyniant gyrfaol. Mae gennym dros 100 o gyfleusterau yng Nghymru a Lloegr - mae llawer o'n staff wedi adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus gyda ni am eu bod nhw'n caru cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol a mwynhau'r amrywiaeth mae'r rol yn ei darparu.
Rydym yn chwilio am Athrawon Nofio sy'n siarad Cymraeg, i ymuno a'r tim cyfeillgar a phroffesiynol. Byddwch yn rhan o'r tim ysgolion nofio llwyddiannus, gan ddysgu un ai mewn gr?p neu wersi unigol. Bydd rhaid i chi fod yn frwd dros nofio ac addysgu gan sicrhau gwasanaeth cwsmer rhagorol bob tro. Dylech fod a chymwysterau Athro Nofio Lefel 2 ond rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd mwyaf addas.
Rydym am weld ein gweithwyr a'n cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl, felly os yw'r swydd hon i chi, cysylltwch a ni.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.