Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Gr?p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn dawnus a deinamig i ymuno a thim Cyfathrebu a Marchnata Gr?p Cynefin. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn syn ffynnu mewn awyrgylch gwaith bywiog, prysur, rhywun syn frwd yn cyfrannu o fewn tim ac yn hapus yn gweithion annibynnol. Rydym eisiau rhywun syn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Byddwch yn rhan bwysig o dim bychan ond prysur syn hyrwyddo gwaith Gr?p Cynefin yn fewnol ac allanol, gan gydweithio ar ymgyrchoedd diddorol a gafaelgar, aml-blatfform.
Byddwch yn hapus yn creu cynnwys, traddodiadol a digidol, yn meddu ar ddychymyg creadigol ac yn arbenigwr ar greu, dadansoddi a chyfleu gwybodaeth o bob math mewn ffyrdd amrywiol a diddorol.
Rydym yn chwilio am rhywun sydd ar un ysfa a ni i gefnogi ein staff, ein tenantiaid an cwsmeriaid wrth i ni ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni ac rydyn nin chwilio am swyddog syn awyddus i wneud gwir gyfraniad ac adeiladu gyrfa.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, ar 0300 111 2122.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.