Noder: y mae'r cyflog a nodwyd uchod yn cyfeirio at gyflog llawn amser. Caiff y cyflog am y swydd hon ei lleihau yn unol a'r oriau gwaith rhan amser dan sylw.
Trosolwg
Bydd y Cynorthwyydd Gweithredol Corfforaethol yn cynorthwyo'r Ysgrifennydd drwy gyflawni tasgau strategol a threfniadaethol. Bydd y tasgau hynny'n cynnwys cydlynu cyfarfodydd chwarterol y Comisiynwyr, cyfarfodydd mewnol ynghylch strategaeth a chyfarfodydd rheoli mewnol yn unol a chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn adlewyrchu gwaith y Comisiwn yn gywir.
Yn ogystal, bydd y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynorthwyo Swyddog y Gymraeg a Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Comisiwn, drwy gydlynu tasgau'n ymwneud a chydymffurfio, a fydd yn cynnwys adroddiadau.
Dyletswyddau
Bod yn gyfrifol am gydlynu adroddiadau, papurau a dogfennau ar gyfer cyfarfodydd allweddol a fydd yn cynnwys cyfarfodydd y Comisiynwyr, cyfarfodydd monitro Cadw, a chyfarfodydd cynllunio a chysylltu eraill, a chofnodi'r cyfarfodydd hynny os oes angen.
Paratoi cofnodion cyfarfodydd y Comisiynwyr a chyfarfodydd rheoli eraill fel y bo angen.
Bod yn gyfrifol am grynhoi a chydlynu gweithdrefnau chwarterol y Comisiwn ar gyfer monitro perfformiad.
Cysylltu a'r staff sy'n gyfrifol am gydlynu, llunio a diweddaru Cofrestr Risg y Comisiwn.
Cynnal cydberthnasau a gweithio mewn partneriaeth a chydweithwyr ar bob lefel ar draws y sefydliad, ac ag asiantaethau a chyrff allanol.
Ymchwilio a pharatoi dogfennau allweddol fel y bo angen a'u cyflwyno pan fo raid i'r Comisiynwyr, y rheolwyr a/neu'r staff.
Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud a'r Ysgrifennydd. Sicrhau bod unrhyw negeseuon yn cael eu hanfon ymlaen neu y gweithredir ar eu sail yn gyflym ac yn effeithlon.
Sicrhau yr ymdrinnir yn gyflym ac yn effeithlon a gohebiaeth yr Ysgrifennydd, lle bo'n briodol, a sicrhau bod hynny'n cael ei wneud i safon uchel.
Cynorthwyo Swyddog y Gymraeg a'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn cyfarfodydd ac wrth baratoi adroddiadau. Yn ogystal, perchnogi'r gwaith o gydlynu'r broses o gwblhau a ffeilio asesiadau o effaith er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion.
Cynorthwyo'r Ysgrifennydd i ddatblygu polisiau a strategaethau a'u symud yn eu blaen, er mwyn cydymffurfio a mentrau newydd Llywodraeth Cymru.
Cyflawni gwaith priodol yn ymwneud a phrosiectau ac allgymorth neu gyflawni dyletswyddau eraill a allai gael eu cytuno gan yr Ysgrifennydd.
Manyleb person
Wedi ennill profiad a/neu gymwysterau proffesiynol neu academaidd priodol mewn disgyblaeth berthnasol (er enghraifft, cymhwyster lefel 3 wedi'i hachredu mewn Gweinyddiaeth Swyddfa / Corfforaethol).
Yn gallu datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol a phroffesiynol a staff a chysylltiadau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff a sefydliadau allanol eraill.
Yn gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhagweithiol iawn a bach iawn o oruchwyliaeth, ac yn gallu bod yn gyfrifol am flaenoriaethu ei lwyth gwaith/ei llwyth gwaith ei hun yng ngoleuni blaenoriaethau'r sefydliad a blaenoriaethau sy'n groes i'w gilydd.
Dealltwriaeth dda o weithio ar draws cyfres o apiau Microsoft 365 (e.e. Outlook, Teams, SharePoint, OneDrive), sgiliau datrys problemau sylfaenol, a hyder wrth ddysgu pecynnau meddalwedd newydd. Byddai profiad o weithio gydag offer AI, yn enwedig Microsoft Co-Pilot, yn fanteisiol.
Wedi ymrwymo'n gadarn i ddarparu gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid ac yn deall pwysigrwydd hynny i sefydliad sy'n ymdrin a gwybodaeth gyhoeddus.
Wedi ymrwymo i gyflawni amcanion mewn tim.
Yn deall Polisi Iaith Gymraeg y Comisiwn Brenhinol.
Yn meddu ar ddealltwriaeth a chymhwysedd sylfaenol o ran Cymraeg llafar ac ysgrifenedig i o leiaf lefel 3 y Fframwaith Asesu Sgiliau Cymraeg (gweler wefan y Comisiwn am fwy o wybodaeth)
Job Types: Part-time, Fixed term contract
Contract length: 12 months
Pay: 29,657.00-33,748.00 per year
Expected hours: 22.2 per week
Benefits:
Company pension
Flexitime
Free flu jabs
Health & wellbeing programme
On-site parking
Work from home
Work Location: Hybrid remote in Aberystwyth, SY23 3BU
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.