Swyddog Ymgysylltu â’r Gymraeg

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y r

o

l:



7.5 awr yr wythnos Cyfnod penodol - 1 flwyddyn 6,062 - 6,672 y flwyddyn Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol:



Sicrhau bod gan bob dysgwr gyfle i ddatblygu ei sgiliau dwyieithrwydd a'i hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Cynghori myfyrwyr a'u hannog i ymgymryd a chyrsiau Cymraeg neu ddwyieithog a darparu sesiynau ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg. Cefnogi myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Gweithio gyda staff addysgu i gynorthwyo myfyrwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg.

Amdanoch chi:



Llafaredd a Llythrennedd Cymraeg - Lefel 4 (Rhugl) Profiad o weithio gyda phobl ifanc a'u hysbrydoli Blaengaredd a'r gallu i feddwl yn amgenach Teithio i safleoedd y Coleg - gorfodol

Buddion:



28 diwrnod (pro rata) o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Parcio am ddim Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cynllun gweithio hyblyg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.


Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3918626
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned