32.5 hours / Temporary
32,433 - 49,944 *
Llandysul
*All salary values are pro-rata.
About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a'r ysgol fel athro/athrawes cyfnod dysgu sylfaen ar gytundeb llawn amser dros gyfnod mamolaeth deiliaid presennol y swydd. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda'n tim ymroddgar o athrawon oed cynradd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
angerddol dros ddysgu ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i wneud yn si?r fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
addysgwr rhagorol
ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o 30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac ar hyn o bryd mae 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda thua 320 o oedran cynradd.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
"...staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio'n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O'r dysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae'r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, 'Oni heuir, ni fedir', yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig. y Gymraeg."
"Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr"
Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth
Os am drafodaeth anffurfiol yngl?n a'r swydd hon, cysylltwch a Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rol hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas a chyfrifoldebau'r rol. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu a ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you'll work
Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
School Admissions
Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Llandysul
Historically, Llandysul was the hub of the Welsh woollen industry where thousands of people were employed in the water driven mills during the industrial revolution.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.