Therapydd Galwedigaethol Llesiant Meddwl Môn

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Llesiant Meddwl Mon, yn unol a gofynion statudol ac arfer orau. Byddant hefyd yn defnyddio gwybodaeth arbenigol am Therapi Galwedigaethol ac arbenigedd sy'n cael ei atgyfnerthu gan theori, ymarfer ar sail tystiolaeth a datblygiad proffesiynol parhaus. Byddant yn ymrwymo i ennill cymhwyster Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy a byddant yn cofrestru ar y cyfle cyntaf ar ol cael eu penodi i'r swydd.



Byddant yn gweithio fel rhan o dim gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill. Gan weithio mewn amgylchedd sy'n newid, bydd deiliaid y swydd yn cynorthwyo'r Adran i gyflawni ei gyfrifoldeb i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) a chyflawni'r nod o sefydlu cysylltiadau gweithio agosach ag iechyd a phartneriaid eraill er mwyn cyflawni gwell canlyniadau o fewn y sector gofal cymdeithasol.



Byddant yn ceisio gwneud y gorau o annibyniaeth, llesiant a diogelwch oedolion a gwella eu lles meddyliol. Bydd deiliaid y swydd yn gwneud hyn trwy gynnal asesiadau o anghenion gan ddefnyddio gweithdrefnau'r Adran, a lle bydd angen, byddant yn cynnal asesiadau ar wahan o anghenion gofalwr/gofalwyr yr unigolyn. Byddant yn datblygu a dylunio canlyniadau a chynlluniau cefnogi a chynlluniau priodol eraill, a byddant yn argymell unrhyw gefnogaeth allanol, yn unol a chyllidebau, gan sicrhau fod y defnydd gorau'n cael ei wneud o adnoddau, a sicrhau'r gymeradwyaeth angenrheidiol yn ol y gofyn e.e. cyflwyno ceisiadau i'r Panel Adnoddau.



Byddant yn cynllunio'n greadigol gydag unigolion, gwneud y mwyaf o asedau, lleihau risgiau a lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth hir dymor. Bydd hyn yn cynnwys:



Monitro ac arfarnu effeithiolrwydd parhaus y cynllun ymyrraeth Therapi Galwedigaethol: gan ddefnyddio model adlewyrchol ac arddangos dealltwriaeth i fesur ac adlewyrchu'n feirniadol ar ymarfer a sgiliau'n gysylltiedig a dadansoddi canlyniadau. Rol Rheoli Gofal/Gweithiwr Allweddol: Derbyn cyfrifoldeb am asesu anghenion a rheoli llwyth achosion. Rol Dyletswydd Argyfwng: Bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym ar gyfer unigolion ar sail lefel yr angen sydd wedi'i asesu ar eu cyfer a'u cymhwyster i dderbyn y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys sgrinio, asesu, cynllunio ymyraethau, datrysiad a/neu atgyfeirio. Rol Ymgynghorol: Bod yn gyfrifol am gynghori ac ymgynghori a thim amlddisgyblaethol ar ystod eang o faterion. Gallai hyn gynnwys cefnogi timau eraill o fewn y Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas ag asesu ac ymyraethau.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.





Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.



Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

Gwenno Williams


Rhif ffon:

01248 751991


Cyfeiriad e-bost:

gwennowilliams@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100486

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD4026974
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned