Uwch Swyddog Technegol / Senior Technical Officer

WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Canllaw yn is-gwmni i Gr?p Cynefin syn rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Mon.




Nod Canllaw yw galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau. Rydym yn fenter gymdeithasol syn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Mon, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl h?n neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

Gofal a Thrwsio

Gwynedd a Mon

Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd iw cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannun bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Canllaw Addasu

- Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl h?n neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.

Canllaw Technegol

- Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid syn bobl h?n neu bobl fregus.

Pwrpas cyffredinol y swydd Uwch Swyddog Technegol yw d

arparu gwasanaeth technegol cynhwysfawr i gr?p cleient Canllaw:



Darparu gwasanaeth technegol proffesiynol llawn i gr?p cleient Canllaw mewn perthynas ag estyniadau, atgyweiriadau ac addasiadau iw cartrefi gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheoliadau a deddfau cyfredol. Sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gost-effeithiol ac yn gynaliadwy. Bod yn sensitif i anghenion a dymuniadau cleientiaid a darpar-gleientiaid Canllaw. Galluogi pobl h?n a phobl anabl i fywn annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain. Cwrdd ar safonau ansawdd, amser ac ymateb o fewn Amcanion Perfformiad, Cytundebau Gwasanaeth ar Canllawiau Ymarfer Da a osodir gan Canllaw.
Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymatebol ac yn gallu dangos gwelliant.
Arwain drwy esiampl a dangos ymrwymiad tuag at ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd ynghyd a rhannu profiadau a gwybodaeth er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd y gwasanaeth.

Y Pecyn



Math o gytundeb:

C

ytundeb Parhaol



Cyflog:

32,957 - 37,093 y flwyddyn

Oriau:

35 awr yr wythnos

Gwyliau:

30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal ar gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd

Teithio:

Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn:

Mae Gr?p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Buddiannau




Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Sut i Ymgeisio am y swydd




Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau cais.pdf

Disgrifiad swydd:




DS Uwch Swyddog Technegol Ebrill 2025.pdf

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.



Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)





Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3033930
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned