Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig addysgu cwrs Safon Uwch Saesneg yng Ngholeg Gwyr Abertawe.
0.5 (18.5 awr yr wythnos)
Parhaol
Cyflog Amser Llawn Cyfartebol 25,371 - 49,934
Campws Gorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
Gweithio a'r tim i ddarparu Saesneg Safon UG ac A2 gan sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu ar gyfer pob pwnc.
Cadw i fyny a datblygiadau cyfredol byrddau arholi a sicrhau bod yr holl ofynion allanol yn cael eu diwallu.
Gweithio gyda'r Arweinydd Cwricwlwm a'r Rheolwr Maes Dysgu i osod targedau a monitro perfformiad mewn perthynas a recriwtio a lefelau presenoldeb, cadw a chwblhau dysgwyr.
Amdanoch chi:
Bydd gennych radd mewn Saesneg a chymhwyster addysgu cydnabyddedig (neu barodrwydd i sicrhau cymhwyster o'r fath).
Y gallu i asesu a darparu'r cwricwlwm dan sylw.
Byddwch yn gallu cyfathrebu mewn modd hyderus gan ymgysylltu'n effeithiol a dysgwyr Safon Uwch a'u hysbrydoli.
Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol.
Buddion:
46 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.