After School Club Leader (term Time)/ Arweinydd Clwb Ar Ol Ysgol (tymor Ysgol) Ysgol Y Graig

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?

Dewch i ymuno a theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni'n angerddol am roi'r dechrau gorau i blant.

Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae'r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.

Dyletswyddau'r Swydd:



Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr am gyflawni'r dyletswyddau canlynol:

Cydweithio i:



Sicrhau rhediad effeithlon yr ystafell, gan arwain tim o staff, i gynllunio a chreu rhaglen o weithgareddau dyddiol ac amrywiol ar gyfer anghenion y plant gan ystyried cyfraniad ac ymateb y plant ar yr hyn maen nhw am gyflawni

Sicrhau bod bob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o'r safon uchaf

Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant (os oes plant ag anghenion) yn cael eu gweithredu yn briodol

Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi i hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg

Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys yn yr ardal dawel neu gysgu yn ol ei anghenion

Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn

Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael cymryd rhan yn yr holl weithgareddau

Sicrhau bod yr offer chwarae o fewn cyrraedd hwylus i'r plant ac yn addas i'w hoedran

Sicrhau bod yr ystafell a'r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar

Sicrhau cyfleoedd i rieni drafod datblygiad/unrhyw ofidion eu plant

Croesawu rhieni i'r clwb wrth gasglu'r plant ar ddiwedd y sesiwn

Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae dyddiol yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o'u hamgylchedd

Arddangos gwaith y plant - facebook, gwaith mynd adref ar ddiwedd y sesiwn. Gosod gweithgareddau'r dydd ar hysbysfwrdd wrth y drws i rieni weld beth mae'r plant wedi cael cyfle i neud.

Sicrhau bod y staff yn paratoi adroddiadau dyddiol ar gyfer y rhieni ar yr hyn a gyflawnwyd gan y plant yn ystod y dydd, a'i gyflwyno mewn modd proffesiynol

Arwain staff y tim i arsylwi ar blant yn rheolaidd a sicrhau bod y plant yn gweithredu rheolau'r clwb.

Sicrhau bod y plant yn gwrando ac ymateb yn dda / positif tuag at blant eraill ac yn ystod gweithgareddau. Trafod gyda rhieni os yw ymddygiad plentyn yn peri gofid.

Creu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig o fewn y Clwb ar bob adeg

Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i'r plant o fewn y feithrinfa yn ogystal a sicrhau mai Cymraeg yw'r iaith a ddefnyddir gan bob aelod o'r staff ym mhob achlysur

Trefnu bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i'r plant a chael y plant i gynorthwyo gyda diod a dewis bwyd

Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd a gofynion iechyd a diogelwch, a'u bod yn cael eu cadw'n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd

Cynnal asesiad risg perthnasol yn rheolaidd

Sicrhau bod polisiau a gweithdrefnau'r Clwb yn cael eu gweithredu gan bob aelod o staff yn effeithiol ar bob adeg

Mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol

Cynnal asesiad risg perthnasol yn rheolaidd

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd

yn ol cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen yma:

Arweinydd Clwb Ar Ol Ysgol y Graig (Tymor Ysgol - Cyfnod Mamolaeth) - Mudiad Meithrin

Job Types: Fixed term contract, Part-time
Contract length: 13 months

Pay: 13.21 per hour

Benefits:

Free parking On-site parking Sick pay
Ability to commute/relocate:

Llangefni LL77 7LP: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)
Application question(s):

Do you have a level 3 qualification in in early years / childcare and play?
Education:

GCSE or equivalent (preferred)
Language:

Cymraeg / Welsh (required)
Work Location: In person

Application deadline: 13/08/2025
Expected start date: 22/09/2025

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3497519
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Part Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned