Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu dull ataliol er mwyn sicrhau llesiant ei ddinasyddion. Er mwyn caniatau i ni wella ein hymateb i'r ddyletswydd hon, rydym yn sefydlu tim newydd fydd yn darparu cefnogaeth ddwys a chyflym i deuluoedd gyda'r nod o gryfhau gwytnwch, atal y berthynas o fewn teuluoedd rhag methu a hyrwyddo newid fel bod yr amgylchedd teuluol yn un diogel.
Nod y Tim Teuluoedd Gwydn fydd:
Gweithio'n ddwys gyda theuluoedd i gadw eu plant allan o ofal.
Gweithio'n ddwys gyda theuluoedd er mwyn i'r teulu gael eu hailuno cyn pen 8 wythnos ar ol i'r plentyn fynd i ofal.
Gweithio'n ddwys a theuluoedd a nodwyd er mwyn i'w plant gael eu dychwelyd atynt, lle mae dychwelyd adref wedi'i nodi fel cynllun sefydlogrwydd yn y tymor hir.
Bydd y tim yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sydd a sgiliau a phrofiad o weithio'n uniongyrchol a phlant sy'n derbyn gofal a chymorth, eu rhieni ac oedolion sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Bydd y tim yn gweithio'n rhagweithiol ac yn ddwys gyda theuluoedd i reoli risg, ymateb yn ddigynnwrf i argyfwng gan ddefnyddio dulliau arloesol, darparu cymorth ymarferol a
sgiliau therapiwtig, cryfhau gwytnwch, y gallu i rianta a lleihau'r risg o fewn teuluoedd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Dawn Hutchinson
Rhif ffon:
01248 750057
Cyfeiriad e-bost:
dawnhutchinson@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100399
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.