Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Rol y Swyddog Diogelu Data yw arwain a rheoli'r gwaith o ddarparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio a gofynion diogelu data o fewn y Cyngor trwy ddatblygu rhaglenni cydymffurfio strategol a gweithredol sydd yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd a deddfwriaeth y DU.
Mae'n rol strategol a statudol sydd yn datblygu, arwain, cydlynu a rheoli strategaeth breifatrwydd y Cyngor. Mae'r rol yn swydd statudol, ac mae'n angenrheidiol yn sgil y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'r rol yn gweithredu heb unrhyw ymyrraeth oddi allan ac yn annibynnol er mwyn arwain ar Lywodraethu Gwybodaeth strategol ar ran y Cyngor a rheoli'r gwaith o wella ymarfer Llywodraethu Gwybodaeth a chydymffurfio a deddfwriaeth diogelu data a deddfwriaeth arall. Mae'r rol yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth mewn perthynas a materion Llywodraethu Gwybodaeth i'r cyhoedd, Aelodau Etholedig a Swyddogion y Cyngor. Mae'r rol yn cydweithredu ag Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) y Cyngor er mwyn nodi a rheoli risg gwybodaeth. Mae'r rol yn cynrychioli'r Cyngor gyda Rheoleiddwyr sectorau penodol. Mae'r rol yn arwain y gwaith o weithredu deddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig sy'n ymwneud a Llywodraethu Gwybodaeth a diogelu data.
Mwy o gwybodaeth
Mae'r Lefel Iaith Cymraeg nawr yn Lefel 0 am y swydd.
Y buddion o weithio i Gyngor Ynys Mon
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb person i'ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw:
Mared Yaxley
Rhif ffon:
01248 752566
Cyfeiriad e-bost:
maredyaxley@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100266
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.