Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Goruchwylio staff i atal digartrefedd ar draws yr Ynys drwy gyfrwng amrediad eang o ymyraethau, arloesedd a chefnogaeth a chynnig cymorth cymheiriaid ar achosion cymhleth
Hyrwyddo perthynas weithio gref gyda'r Gwasanaethau Oedolion a Phlant, y bwrdd iechyd a sefydliadau'r trydydd sector er mwyn annog annibyniaeth a gwytnwch ymhlith trigolion
Arwain ar y Llwybr Iechyd Meddwl o ran atal digartrefedd ar gyfer cwsmeriaid sy'n wynebu heriau iechyd meddwl
Arwain y cyfarfodydd Cyswllt Tai a gynhelir bob pythefnos gyda'r gwasanaethau Oedolion a Phlant gan sicrhau ymagwedd gyson tuag at ddarparu cefnogaeth i unigolion a chanddynt angen tai ac sy'n wynebu heriau corfforol
Goruchwylio tim o Swyddogion Asesu Tai drwy oruchwyliaeth, gwerthusiadau a hyfforddiant, cymorth, cyngor ac arweiniad dydd i ddydd
Gwella a datblygu'r swyddogaeth digartrefedd yn barhaus a rheoli perfformiad yn ddyddiol
Gostwng risgiau gweithredol a chorfforaethol drwy ymyraethau ac ymagweddau rheoli
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Daniel Roebuck
Rhif ffon:
01248 752200
Cyfeiriad e-bost:
DanielRoebuck@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100390
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.