Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Gr?p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am rywun sydd ar un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Byddwch yn cynorthwyor tim Cymdogaethau i uchafu incwm rhent a thal gwasanaeth i Gr?p Cynefin. Byddwch yn gweinyddu systemau cyfrifiadurol, gan sicrhau cywirdeb a thrywydd archwilio cyfredol a chyson. Byddwch yn darparu cefnogaeth gweinyddol ir timoedd Casglu Incwm, Tai a Lles a datblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid.
Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl a chael blas ar waith rheolaeth tai mewn cymdeithas dai cefnogol a chyfeillgar.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Rhiannon Dafydd, Rheolwr Tai, neu Douglas Graham, Arweinydd Systemau Rheolaeth Tai, ar 0300 111 2122.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.