Casework Coordinator | Cydlynydd Gwaith Achos

Newport, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Teitl y Swydd: Cydlynydd Achosion


Lleoliad: De Cymru (Hybrid; gyda sylfaen gwasanaeth yng Nghasnewydd a swyddfeydd yng Nghaerdydd, gweithio gartref a safleoedd cymunedol/allgymorth yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe



Cyflog: 27,423 y flwyddyn yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos



Contract: Parhaol



Ydych chi'n angerddol am gefnogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau gyda urddas a hyder?



Ydych chi'n ffynnu mewn rol lle mae tosturi, cydweithredu ac eiriolaeth yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol?



A allech chi fod y person sy'n helpu ffoaduriaid newydd eu cydnabod i lywio eu pennod nesaf yn Ne Cymru?



Fel Cydlynydd Achosion, byddwch yn cefnogi ffoaduriaid ar draws De Cymru. Byddwch yn darparu gwaith achos sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn helpu pobl i symud ymlaen i wasanaethau a budd-daliadau prif ffrwd ar ol cael caniatad i aros. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol, yn rheoli gwirfoddolwyr, ac yn sicrhau bod cymorth yn hygyrch ac yn sensitif yn ddiwylliannol. Mae'r rol yn cynnwys dosbarthu darpariaethau brys, cynnig arweiniad ar hawliau a budd-daliadau, ac yn helpu pobl i lunio'r gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eiriolaeth leol ac ymwybyddiaeth. Bydd popeth rydych chi'n ei wneud wedi'i wreiddio mewn tosturi, cynhwysiant a phroffesiynoldeb, gan helpu pobl i deimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn rymus yn ystod eiliad allweddol yn eu bywydau.



Sut mae diwrnod ym mywyd Cydlynydd Achosion yn edrych? Yn eich rol newydd byddwch yn:




Darparu gwaith achos sensitif, arbenigol ac o ansawdd uchel i bobl mewn sefyllfaoedd bregus. Cynllunio a darparu cymorth wyneb yn wyneb ac o bell ledled Cymru. Rheoli llwyth gwaith yn effeithiol a gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dim deinamig. Hwyluso mynediad at gymorth statudol a lleol yn seiliedig ar hawliau a chymwysterau. Eirioli'n broffesiynol ar ran cleientiaid i amddiffyn eu hawliau. Hyrwyddo a datblygu'r gwasanaeth ar y cyd a phartneriaid mewnol ac allanol. Defnyddio systemau TG yn hyderus a chyfathrebu'n glir, gan gynnwys drwy gyfieithwyr.

Oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad canlynol i fod yn Gydlynydd Achosion llwyddiannus?




Cymwysedig Lefel 1 IAA (Asylum a Immigration) neu'n gweithio tuag at hynny. Gwybodaeth gadarn am hawliau llocheswyr a ffoaduriaid a'r systemau cymorth perthnasol. Profiad o reoli llwythi gwaith cymhleth a gweithio gyda phobl mewn argyfwng. Sgiliau mewn gweithio mewn partneriaeth a chefnogi gwirfoddolwyr. Sgiliau cyfathrebu, eiriolaeth a threfnu rhagorol. Yn hyderus gyda TG a defnyddio cronfeydd data, taenlenni ac e-bost.

Diddordeb? Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar Dydd Gwener 26ain o Fedi.




Yn gyfnewid am eich ymrwymiad a'ch arbenigedd, byddwch yn cael:




Gwyliau:

36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) + opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol (pro rata).

Cynllun pensiwn:

Hyd at 6% cyfraniad pensiwn.

Gweithio hyblyg:

Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dull gwaith dewisol.

Dysgu a Datblygu:

Amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa + dysgu cynhwysfawr.

Gostyngiadau:

Mynediad i Gerdyn Gostyngiadau Blue Light a llwyfan buddion gweithwyr.

Cefnogaeth Llesiant:

Mynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.

Gweithio mewn Tim:

Cefnogi ein cenhadaeth mewn tim cydweithredol.

Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn falch o'n gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol i'n holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall ein timau ddod a'u hunaniaeth wirioneddol i'r gwaith heb risg nac ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data rheolaidd, a chefnogaeth ein Rhwydwaith Hil ac Cydraddoldeb Mewnol (REEN), Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhyw, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Staff Ifanc.


Gyda'n gilydd, ni yw ymatebwyr brys y byd.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3781805
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Newport, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned