SWYDDOG GWAITH ACHOS DROS DRO hyd at 31 Mawrth 2026 30,024 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i recriwtio 2 Swyddog Gwaith Achos dros dro i ddelio ag achosion, i ddechrau cyn gynted ag y bo modd. Bydd y contractau dros dro hyn yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Oherwydd natur y swyddi hyn, rydym yn rhagweld y bydd angen i ddeiliaid y swyddi hyn fod wedi'u lleoli yn y swyddfa yn bennaf am yr ychydig fisoedd cyntaf. Mae ein swyddfa ym Mhencoed, oddi ar Gyffordd 35 yr M4.
Dyma swyddi lle bydd eich gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn dod i'r amlwg. Byddwch yn delio ag ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd ac yn eu datrys a'u huwchgyfeirio lle bo angen, yn ogystal a drafftio a chyhoeddi hysbysiadau penderfynu perthnasol. Byddwch yn:
Ystyried ac asesu cwynion a wneir i'r Ombwdsmon a gwneud penderfyniadau yn eu cylch, gydag awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon - gan gynnwys eu datrys yn gynnar neu eu hatgyfeirio, a gwneud argymhellion i uwch gydweithwyr fel y bo'n briodol.
Cyfleu penderfyniadau gwaith achos yn briodol.
Sefydlu achosion ar y system rheoli achosion a'u diweddaru yn ol yr angen
Ymdrin yn effeithiol ac yn gwrtais ag ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd neu eraill (p'un a ydynt yn dod dros y ffon, drwy lythyr, e-bost neu ymweliad), rhoi gwybodaeth a chyngor priodol a chadw cofnodion perthnasol yn unol a gweithdrefnau'r Ombwdsmon
Rhoi ystyriaeth gychwynnol i gwynion a wneir i'r Ombwdsmon
Sicrhau bod gennych ddealltwriaeth eang o newidiadau pwysig yn y gyfraith ac mewn ymarfer sy'n effeithio ar awdurdodaeth yr Ombwdsmon
I wneud cais am y swydd hon, yn ddelfrydol bydd gennych rywfaint o brofiad o ddelio a chwynion neu brofiad o ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan unigolion sydd wedi graddio'n ddiweddar yn y Gyfraith, ond nad oes ganddynt y profiad gwaith perthnasol. Bydd angen y canlynol arnoch:
Cymhwysedd amlwg o ran systemau TG
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur
Gallu gweithio'n dda mewn tim ac yn annibynnol
Disgresiwn llwyr a dealltwriaeth o'r angen am gyfrinachedd
Cynigir gweithio hyblyg a gweithio hybrid o bosibl ar ol cwblhau'r hyfforddiant, gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael (32 diwrnod pro rata), Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles - sy'n golygu bod yr Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i bobl sy'n chwilio am waith ar hyd a lled Cymru a'r tu hwnt
Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Rydym yn cynnal archwiliadau o gyfryngau cymdeithasol pob ymgeisydd llwyddiannus a bydd gofyn i chi ddarparu manylion eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynnal yr archwiliadau. Mae hyn yn un o amodau unrhyw gynnig. Mae cyfyngiadau gwleidyddol ar y swydd hon hefyd.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.
Rydym yn annog pawb i ddod a nhw eu hunain yn llwyr i'r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi'r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i'n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
TEMPORARY CASEWORK OFFICER up to 31 March 2026 30,024 pa
We are looking to recruit 2 temporary case handling Casework Officers to start as soon as possible. These temporary contracts will run until the end of March 2026.
Due to the nature of these positions, we anticipate the need for these roles to be predominantly office based for the first few months. Our office is in Pencoed, just off Junction 35 of the M4.
These are roles where your excellent customer service will come to the fore, where you will deal with enquiries and complaints from the public and resolve and escalate where required and draft and issue relevant decision notices. You will:
Consider, assess and make decisions on complaints made to the Ombudsman, with the Ombudsman's delegated authority, including early resolution or referral onwards, and to make recommendations to senior colleagues as appropriate.
Communicate casework decisions appropriately.
Set up cases on the case management system and update it as necessary
Deal efficiently and courteously with enquiries from members of the public or others whether received by telephone, letter, e-mail or by visit, providing appropriate information and advice and making relevant records in accordance with the Ombudsman's procedures
To give initial consideration to complaints made to the Ombudsman, to
Maintain a broad understanding of key changes in law and practice affecting the Ombudsman's jurisdiction
To apply for this role, you will ideally have some experience of dealing with complaints or have customer service experience. However, applications from recent Law graduates who do not have the relevant work experience are welcome. You will need to have:
Proven competence with IT systems
Excellent written and spoken communication skills
Strong team player but also able to work independently
Absolute discretion and an understanding of the need for confidentiality
Offering flexible working and possible hybrid working after training, with generous annual leave allowances (32 days pro rate'd), Civil Service Pension and a wide range of health & wellbeing benefits firmly positions the Ombudsman as an employer of choice for job seekers across Wales and beyond
You can apply in English or Welsh. Applications in Welsh will be treated no less favourably.
We carry out social media checks on all successful candidates and you will be required to provide your social media account details for the checks to take place. This is a condition of any offer. There are also political restrictions on this post.
The Public Services Ombudsman is an Equal Opportunities Employer.
Diversity and inclusion is central to everything we do. We are actively committed to promoting and participating in good practice in the way that we attract, recruit and retain staff.
Everyone is encouraged to bring their whole self to work because we appreciate the value that a truly diverse workforce brings to an organisation. We celebrate difference, recognising the benefits this brings to our inclusive culture, including age, disability, gender identity and expression, religion, race, sex, sexual orientation and socio-economic background.