Casework Coordinator | Cydlynydd Gwaith Achos

Newport, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Teitl y Swydd: Cydlynydd Achosion


Lleoliad: De Cymru (Hybrid; gyda sylfaen gwasanaeth yng Nghasnewydd a swyddfeydd yng Nghaerdydd, gweithio gartref a safleoedd cymunedol/allgymorth yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe



Cyflog: 27,423 y flwyddyn yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos



Contract: Tymor Penodol hyd at fis Medi 2028



Allwch chi helpu'r Groes Goch Brydeinig i ddarparu cymorth hanfodol i geiswyr lloches, ffoaduriaid, a mewnfudwyr sy'n agored i niwed ar draws Cymru? Fel rhan o'n tim Cefnogi Ffoaduriaid ac Adfer Cysylltiadau Teuluol, byddwch yn cydlynu gwaith achos o ansawdd uchel ac yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr cyfreithiol, partneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau mynediad at gyngor cyfreithiol a gwasanaethau hanfodol.



Mae'r rol hon wedi'i hariannu gan y Fenter Cyfiawnder Gyda'n Gilydd hyd at fis Medi 2028.



Sut mae diwrnod ym mywyd Cydlynydd Achosion yn edrych? Yn eich rol newydd byddwch yn:




Cefnogi ceisiadau mewnfudo drwy gasglu tystiolaeth a chydweithio a chynrychiolwyr cyfreithiol ar gyflwyniadau. Darparu gwaith achos sensitif, arbenigol ac o ansawdd uchel i bobl mewn sefyllfaoedd bregus. Cynllunio a darparu cymorth wyneb yn wyneb ac o bell ledled Cymru. Rheoli llwyth gwaith yn effeithiol a gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dim deinamig. Hwyluso mynediad at gymorth statudol a lleol yn seiliedig ar hawliau a chymwysterau. Eirioli'n broffesiynol ar ran cleientiaid i amddiffyn eu hawliau. Hyrwyddo a datblygu'r gwasanaeth ar y cyd a phartneriaid mewnol ac allanol. Defnyddio systemau TG yn hyderus a chyfathrebu'n glir, gan gynnwys drwy gyfieithwyr.

Oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad canlynol i fod yn Gydlynydd Achosion llwyddiannus?




Cymwysedig Lefel 1 IAA (Asylum a Immigration) neu'n gweithio tuag at hynny. Gwybodaeth gadarn am hawliau llocheswyr a ffoaduriaid a'r systemau cymorth perthnasol. Profiad o reoli llwythi gwaith cymhleth a gweithio gyda phobl mewn argyfwng. Sgiliau mewn gweithio mewn partneriaeth a chefnogi gwirfoddolwyr. Sgiliau cyfathrebu, eiriolaeth a threfnu rhagorol. Yn hyderus gyda TG a defnyddio cronfeydd data, taenlenni ac e-bost.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar Dydd Gwener 26ain o Fedi.




Yn gyfnewid am eich ymrwymiad ac arbenigedd, byddwch yn cael:




Gwyliau:

36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) + opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol.

Cynllun pensiwn:

Hyd at 6% cyfraniad pensiwn.

Gweithio hyblyg:

Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dull gwaith dewisol.

Dysgu a Datblygu:

Amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa + dysgu cynhwysfawr.

Gostyngiadau:

Mynediad i Gerdyn Gostyngiadau Blue Light a llwyfan buddion gweithwyr.

Cefnogaeth Llesiant:

Mynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.

Gweithio mewn Tim:

Cefnogi ein cenhadaeth mewn tim cydweithredol.

Cycle2Work:

Llogi beic drwy'r cynllun.

Benthyciad tocyn tymor:

Benthyciad di-log ar gyfer costau teithio i'r gwaith.

Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn falch o'n gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol i'n holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall ein timau ddod a'u hunaniaeth wirioneddol i'r gwaith heb risg nac ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data rheolaidd, a chefnogaeth ein Rhwydwaith Hil ac Cydraddoldeb Mewnol (REEN), Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhyw, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Staff Ifanc.


Gyda'n gilydd, ni yw ymatebwyr brys y byd.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3781809
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Newport, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned