Contract: Llawn amser, tymor penodol tan 31 Awst 2026
Please note: Fluency in Welsh is essential for this post. An English copy of the below is available on request.
Rydyn ni'n falch iawn o gynnig y cyfle i rywun sydd a sgiliau cynllunio a threfnu cryf ddod i weithio yn rhan o'n Tim Rheoli Canolfannau i lenwi swydd sydd ar gael o ganlyniad i secondiad mewnol.
Y rol
Bydd y rol yn rhan o dim bach sy'n cefnogi'r broses gyfan o gymeradwyo canolfannau drwy adolygu ceisiadau, casglu ac asesu gwybodaeth gan ffynonellau rheoleiddiol, gwneud penderfyniadau cymeradwyo, a chynghori canolfannau newydd posibl ynghylch gofynion y CGC a CBAC. Yn achos canolfannau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo, bydd deiliad y rol yn goruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw data canolfannau, monitro canolfannau a dadansoddi gwybodaeth adrannol i gefnogi gweithrediadau effeithiol. I gefnogi hyn, bydd deiliad y rol yn creu ac yn cynnal a chadw deunyddiau canllawiau ac hyfforddiant, gan ymddwyn fel prif gyswllt ar gyfer ymholiadau gweinyddol.
Amdanoch chi
Fel cyswllt allweddol i'n canolfannau, mae sgiliau iaith sgyrsiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rol (byddwch chi'n cael cefnogaeth ein tim cyfieithu ynghylch prawfddarllen unrhyw beth ffurfiol sy'n cael ei gyhoeddi). Yn ogystal a hyn, bydd ymgeiswyr yn hyderus wrth weithio ag amrywiaeth o derfynau amser penodol ac yn gallu cynllunio a threfnu eu gwaith yn seiliedig ar amserlenni tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Byddan nhw'n mwynhau cyfathrebu ag eraill ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn eu gwaith. Yn olaf, dylen nhw fod yn dda wrth roi sylw i fanylion, a bod yn gyfforddus wrth adolygu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus yn erbyn polisiau.
Buddion
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol) wedi'i addasu ar gyfer patrymau gweithio rhan amser a chywasgedig, gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn hael a nifer o bolisiau sy'n ystyriol o deuluoedd. Gall dilyn gyrfa gyda CBAC fod yn hynod o werthfawr a byddwch chi'n cael eich annog i ddilyn y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Mae CBAC yn gweithredu ar sail model gweithio hybrid, sy'n galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng gweithio yn swyddfeydd CBAC a gweithio gartref, gan ddibynnu ar anghenion busnes. Oherwydd hynny, gwahoddir ceisiadau gan unigolion ledled y DU ond noder os gwelwch yn dda y bydd angen gweithio'n rheolaidd o'n swyddfa yng Nghaerdydd. Gellir trafod hyblygrwydd, ond ar hyn o bryd mae'r tim yn y swyddfa o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos ar gyfartaledd.
Os hoffech wybod mwy am y rol hon, neu am weithio yn CBAC, peidiwch ag oedi cyn anfon e-bost at Fliss (hi) at AD@cbac.co.uk a fydd yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau gennych.
Ewch i'n gwefan i lawrlwytho copi o'r disgrifiad swydd a ffurflen gais.
Dyddiad cau: 23:59, dydd Iau 22 Ionawr 2026
Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod ar dydd Mawrth 03 Chwefror 2026
The above advertisement is for a post as Centre Management Officer at WJEC. Fluency in Welsh and English is an essential requirement for the post. Applications should be submitted bilingually or through the medium of Welsh.
Job Types: Full-time, Permanent
Pay: 28,641.00-31,068.00 per year
Benefits:
Additional leave
Cycle to work scheme
Flexitime
Free parking
Health & wellbeing programme
On-site parking
Sick pay
Work from home
Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF5 2YX