Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egniol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys ar draws platfformau digidol yn ddyddiol gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl, yng Nghymru a thu hwnt. Mae presenoldeb S4C ar y llwyfannau yma yn rhan allweddol o drawsnewid digidol y darlledwr ac mae'n faes prysur, heriol a chyffrous.
Yn y rol hon byddwch yn cynnig cymorth gweinyddol ac ymarferol i'r Tim Digidol gan gefnogi strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan S4C.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.
Y Cynorthwyydd Cyhoeddi Digidol fydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda'r tasgau dydd-i-ddydd sy'n gysylltiedig a rheoli cynnwys digidol S4C.
Byddwch yn cefnogi'r tim digidol, yr adran Gyhoeddi a'r sector yn gyffredinol drwy ddarparu gweinyddiaeth platfform effeithiol. Byddwch yn gyfrifol am glirio cerddoriaeth a deunydd trydydd parti ac yn cydweithio gydag adrannau eraill o fewn S4C i sicrhau cydymffurfiaeth a'r rheolau a'r gofynion hawlfraint. Byddwch hefyd yn cefnogi'r tim archif a chyfleu, a bod yn gyfrifol am dynnu lawr deunydd sydd heb hawliau neu sydd allan o gytundeb. Yn ogystal, byddwch yn chware rhan yn y broses cynllunio cynnwys ar draws gwahanol blatfformau digidol.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.