Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y Rol:
Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa'r Gyfadran, wedi'i lleoli yng Ngorseinon, ac o bosibl i gefnogi gweinyddiaeth yn ein campws Llwyn Y Bryn un diwrnod yr wythnos. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau pobl rhagorol a bydd yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.
Rhan-amser (20 awr yr wythnos)
Yn ystod y tymor (38 wythnos y flwyddyn)
8.30am - 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (gellir trafod hyn yn ystod y cyfweliad)
Cyfnod penodol tan 31/08/26
11,257 - 11,496 y flwyddyn
Prif leoliad: Campws Gorseinon
Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 24 Medi
Cyfrifoldebau Allweddol:
Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa'r Gyfadran.
Atebolrwydd allweddol am archebu nwyddau traul, cynnal cofnodion manwl a gweinyddu ffurflenni cerdyn credyd
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, darlithwyr a myfyrwyr.
Amdanoch chi:
Profiad o gynnal systemau gweinyddol manwl.
Sgiliau TG rhagorol.
O leiaf 5 cymhwyster TGAU Gradd A-C (neu gyfwerth) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd gennych hefyd gymhwyster lefel 2 perthnasol, yn ddelfrydol mewn Gweinyddu Busnes.
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ar bob lefel.
Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a chadw at derfynau amser ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel.
Buddion:
28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.